Eira’r bore yn boendod i deithwyr

Teimlad annifyr ofnadwy oedd methu neud dim wrth fod yn sownd ar yr hewl

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
671270DF-0833-4EB9-9468

Cwmsychpant gan Linda Jenkins

2A454A7C-1291-4778-84CD-8F3D568CB020

Cerbydau ar stop ym Mhencarreg gan Amanda Davies

019BFD96-CD8A-489D-A41C-8CBBDD763B65

Cerbydau yn cael trafferth mynd tuag at Lanllwni o Lanfihangel ar Arth, gan Chloe Vince

C9CB618F-27D2-4377-8006-93560EA17F5D

Llanybydder gan Jo Show

0C1C82F9-2E6C-4AB0-9DF8-653B56C2C6B1

Ffarmwr yn ei dractor yn clyrio’r ffordd i Lanwenog, gan Jessica Kendell

Daeth y cysair a’r eira yn drwch mewn ardaloedd bore ma gan achosi anrhefn i lawer.

Cafwyd adroddiadau am ddamweiniau ffordd niferus, a rhai o’r rhei’ny  ar dro Cefnresgair Cwmann, yn Llanwnnen, Pencarreg a Llanllwni.

Roedd yr hewl o Bentop, Llanllwni i gyfeiriad Caerfyrddin ar gau yn llwyr oherwydd trwch yr eira ar y ffordd gyda cherbydau wedi eu dargyfeirio yn boenus o araf drwy Llanfihangel a Phencader.

Meddai un teithiwr a fu yn sownd mewn eira a rhew ar y ffordd heddiw,

“Roedd yn deimlad annifyr ofnadwy yn methu neud dim wrth fod yn sownd yn yr eira.”

Mae’r cwestiwn yn codi, a fu’r cynghorau yn graeanu’r ffyrdd?  Oes digon o adnoddau gyda nhw’r dyddiau hyn i ymdopi â thywydd eithafol?

Bu Jessica Kendell yn sownd ar y ffordd i Lanwemog am bron i 4 awr gyda phlentyn 8 oed a 10 mis oed yn y car.  Llwyddodd i symud wedi ffarmwr ddod yn ei dractor i glyrio’r holl eira!

Amharwyd ar y gwasanaeth bysus gan gynnwys bysus ysgol.  Cyhoeddodd Meddygfa Pro Pedr y byddai eu gwasanaethau heddiw wedi eu cyfyngu oherwydd staffio.

Yn sgil y tywydd garw, mae ambell ddigwyddiad ac ymarferion wedi eu canslo prynhawn ma a heno.

Dweud eich dweud