Ceredigion fu’r ffederasiwn buddugol yn Eisteddfod CFfI Cymru, Sir Gâr 2024! Llongyfarchiadau a llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu.
Diolch i bawb a fu’n dilyn y blog byw yma ac yn arbennig i Nia am fod wrthi’n gohebu am dros 14 awr!
Mawr gobeithiwn y bydd gohebwyr Clonc360 yn gallu dod â’r diweddaraf o Eisteddfodau’r CFfI flwyddyn nesa eto.
Côr
1. Sir Gâr
2. Penfro
3. Ceredigion
Dai Baker, Cadeirydd yr Eisteddfod yn arwain Seremoni cloi.
Unawd Sioe Gerdd 18-28 oed
1. Hannah Richards, Penybont, Sir Gâr
2. Beca Williams, Talybont, Ceredigion
3. Dyfan Jones, Maldwyn
Deuawd / Triawd Doniol
1. Troedyraur
2. Llanllwni
3. Abergwaun
Côr Sir Gâr yn cloi’r cystadlu.
14 awr o gystadlu yn ddi-stop.
Adrodd Digri
1. Mared Edwards, Ynys Môn
2. Erin Roberts, Eryri
3. Sian Lewis, Maldwyn
parti Llefaru
1. Llanwenog
2. Glannau Tegid
3. Abergwaun
Darn bach o’r côr.
Côr Ceredigion yn agor y gystadleuaeth gyda Heledd Williams yn arwain ac Einir Ryder-Jones yn cyfeilio.