Eisteddfod yr Urdd Cylch Llanbed

Y diweddaraf o Eisteddfod Gylch Llanbed heddiw!

gan Ifan Meredith
IMG_6608

Cynhelir Eisteddfod Gylch Llanbed heddiw a dilynwch wefan fro Clonc360 am y diweddaraf o’r cystadlu ar y llwyfan!

17:11

Gorffen yr eisteddfod wrth ganu’r anthem genedlaethol. Diolch am ddilyn blog byw Clonc360 yn ystod y dydd. Tan flwyddyn nesaf!

17:03

Llwyfan llawn wrth gyhoeddi canlyniad ola’r dydd:

Côr bl. 6 ac iau i Ysgolion â hyd at 150 o blant:

  1. Ysgol y Dderi
  2. Ysgol Dyffryn Cledlyn

16:58

Perfformiad Theatrig o Sgript bl. 6 ac iau:

  1. Ysgol Bro Pedr
  2. Ysgol Carreg Hirfaen
  3. Ysgol Llanllwni

16:52

Adran Llanbed fydd yn cynrychioli Cylch Llanbed yn Eisteddfod Rhanbarth Ceredigion yng nghystadleuaeth Côr i Adrannau. 

16:51

CANLYNIAD:

Grŵp Llefaru bl. 6 ac iau:

  1. Merched Dyffryn Cledlyn
  2. Ysgol Llanllwni
  3. Bechgyn Dyffryn Cledlyn

16:48

Llinos Jones yn traddodi’r diolchiadau i bawb a fu’n cynorthwyo i gynnal Eisteddfod Cylch Llanbed 2024. 

16:46

CANLYNIADAU:

Cyflwyno Alaw Werin bl. 6 ac iau:

  1. Sara Lewis, Ysgol Dyffryn Cledlyn
  2. Elliw Jones, Ysgol Llanllwni
  3. Ellie Tansley, Ysgol y Dderi

16:38

Ysgol Dyffryn Cledlyn yn cloi’r gystadleuaeth i gorau bl. 6 ac iau i ysgolion â hyd at 150 o blant.

16:35

Ysgol y Dderi yn agor cystadleuaeth y Côr bl. 6 ac iau i ysgolion â hyd at 150 o blant.

16:34

CANLYNIAD:

Parti Unsain bl. 6 ac iau i Ysgolion â hyd at 50 o blant:

  1. Ysgol y Dderi
  2. Ysgol Llanllwni