Faint o amser mae’n cymryd i deithio drwy Lanllwni gyda’r holl gyfyngiadau cyflymdra?

Newid cyfyngiad cyflymder 8 gwaith mewn 2.5 milltir

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Honnwyd ar facebook pan gyflwynwyd cyfyngiadau cyflymder newydd y byddai’n cymryd chwarter awr i deithio trwy bentref Llanllwni. ond faint mae’n cymryd mewn gwirionedd?

Mae Llanllwni yn un o bentrefi hiraf Cymru yn ymestyn 2.5 milltir ar hyd ffordd yr A485 o Bont Abergilwydeth ger New Inn i’r bont dros Nant Hust ar ochr Llanybydder.

Ond wrth deithio mewn modur, rhaid newid uchafswm cyflymder wyth o weithiau.  Gan deithio o’r de orllewin, rhaid arafu o 40 mya i 30, ac yna i 20 gyda darn yn y canol heibio Plasbach mor gyflym â 50 mya.  Rhaid arafu eto i 40 mya i fynd heibio Capel Noni ac i 30 i fynd heibio’r Belle cyn cynyddu i 40 mya eto wrth adael ardal Abergiar tuag at y Bryn ac yna i 50 wrth ffarwelio â’r pentref.

O T L Thomas, heibio’r Swyddfa Bost, Y Talardd a’r ysgol ceir cyfyngiadau newydd o 20mya.  Cyflwynwyd hyn yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru fel yn sawl ardal er mwyn achub bywydau, ond mae hyd y daith drwy’r pentref wedi cynyddu oherwydd hynny.  Faint mae’n cymryd i chi?  Ydych chi’n cadw at y cyfyngiadau?

Oes, mae angen pwyllo y dyddiau hyn a pharatoi ar gyfer pob taith yn ofalus er mwyn rhoi digon o amser i gyrraedd eich cyrchfan.

Ble’r oedd modd rasio ar hyd ffyrdd syth Llanllwni yn y gorffennol, rhaid neilltuo o gwmpas 7 munud i fynd o un pen y pentref i’r llall yn gyfreithlon nawr.  Gwyliwch y fideo uchod.  Dyw’r amser ddim mor hir â hynny wedi’r cwbl.

Nid ffordd neu hewl yn unig sydd yn Llanllwni, ond pentref a chymuned hefyd cofiwch.  Rhaid parchu hynny.