Mae CAVO yn dod â chyfres o ffeiriau i Aberystwyth, Aberteifi, a Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr Hydref. Bydd y ffeiriau yn cynnig cyngor arbenigol, awgrymiadau ymarferol, a chymorth ar amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys gwaith a hyfforddiant, cyfleoedd wirfoddoli a phrosiectau cymunedol.
Gall y rhai sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned ddarganfod cyfoeth o gyfleoedd gwirfoddoli a dysgu am brosiectau lleol sy’n creu newid cadarnhaol.
Bydd y mynychwyr yn cael y cyfle i gael cyngor gyrfa arbenigol, gwybodaeth am swyddi gwag lleol, a chefnogaeth ar gyfer dychwelyd i’r gwaith neu gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi.
Bydd tîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion yn bresennol hefyd, yn cynnig cyngor ar ysgrifennu eich CV, llenwi ffurflenni cais, a meistroli technegau cyfweld.
Gall y rhai sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned ddarganfod cyfoeth o gyfleoedd gwirfoddoli a dysgu am brosiectau lleol sy’n creu newid cadarnhaol.
Peidiwch â cholli’r cyfle i gael cyngor gwerthfawr, cefnogaeth, ac o bosibl gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned!
P’un a ydych am newid gyrfa, dod o hyd i rôl wirfoddol foddhaus neu ddim ond eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich cymuned, ni ddylid colli’r digwyddiadau rhad ac am ddim yma. Dewch draw i gael eich ysbrydoli!
Ymunwch â ni yn:
- Aberystwyth, Fforwm Cymunedol Penparcau: Dydd Mercher, 2 Hydref, 2024. 11:00am – 2:00pm.
- Aberteifi, Neuadd y Farchnad: Dydd Iau, Hydref 17eg, 2024. 11:00yb – 2:00yp.
- Llanbedr Pont Steffan, Neuadd Fictoria: Dydd Gwener, Hydref 25, 2024. 11:00yb – 2:00yp.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â CAVO ar gen@cavo.org.uk neu ffoniwch 01570 423 232.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion.