Is-gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion 2024-5

Y Cynghorydd Ann Bowen Morgan

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_9252

Llongyfarchiadau calonnog i’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan, Aelod Plaid Cymru dros Ward Llanbedr Pont Steffan, ar gael ei hethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y flwyddyn 2024-5. Y mae Ann yn wyneb a llais cyfarwydd iawn yn nhref ac ardal Llanbed. Mae’n Gynghorydd Tref brofiadol, yn gyn Faer Llanbed ac yn Gynghorydd Sir weithgar ers Hydref 2022.

Ein cwestiwn cyntaf Ann – a yw dod yn Is-gadeirydd ac yna’n Gadeirydd ymhen blwyddyn yn gwireddu uchelgais?

Doeddwn i erioed wedi anelu at fod yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir ond yn wir ’rwy’n ei gyfri’n fraint i gael fy enwebu gan Grŵp Plaid Cymru a fy nghadarnhau ar gyfer y swydd gan y Cyngor cyfan. Mae’n braf i fod yn un o’r ychydig o fenywod sydd wedi eu dewis i fod yn gadeiryddion y Cyngor Sir.

Beth fydd eich swyddogaethau a’ch gwaith ac a oes gennych flaenoriaethau y dymunwch eu gwireddu’n Is-gadeirydd?

Dirprwyo ar gyfer y Cadeirydd a chefnogi’r Cynghorydd Keith Evans fydd fy swyddogaeth y flwyddyn hon a sicrhau fod popeth yn rhedeg yn esmwyth. ’Rwyf wedi cadeirio Cyngor Tref Llanbed pan oeddwn yn Faer Llanbed a sawl pwyllgor arall ond bydd yn her i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor Sir. Bydd gwaith dysgu gennyf yn sicr a chawn weld beth a ddaw y flwyddyn nesaf.

Y mae’n gyfnod heriol iawn yn ariannol ar Geredigion fel awdurdodau lleol eraill a gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl o gael eu cwtogi. Sut byddwch chi yn wynebu’r heriau hyn yn arbennig yn eich rôl fwy amlwg yn Is-gadeirydd?

Un o 38 o gynghorwyr fydda i. Byddaf yn sicr yn cydweithio gyda phawb yn ceisio ymateb yn ddoeth i’r heriau ariannol. Byddaf yn ymdrechu i gadw gwasanaethau cyhoeddus yn enwedig yn yr ardaloedd a’r trefi gwledig.

Y mae gennych fywyd gweithgar a phrysur yn barod yn nhref Llanbed. Sut y byddwch yn llwyddo i neilltuo amser hefyd i fod yn Is-gadeirydd?

Dwi’n gobeithio na fydda i’n gorfod cwtogi ar fy ngwaith a’m gweithgareddau yn Llanbed. Byddaf yn dal i frwydro dros welliannau yma. Er enghraifft, sefydlu Cylch Meithrin newydd Pont Pedr fel Cadeirydd ar y Pwyllgor newydd brwd iawn sydd gennym.

Byddwch ymhen blwyddyn yn olynu’r Cynghorydd Keith Evans yn Gadeirydd. Sut y byddwch yn cynllunio ar gyfer eich blwyddyn yn Gadeirydd ac a oes gennych flaenoriaethau yn cael eu llunio’n barod ar gyfer y flwyddyn honno?

Mae gen i flwyddyn i gynllunio ar ei gyfer a gobeithio y byddaf yn medru Cadeirio’r Cyngor misol yn gadarn gan fod yn deg gyda phawb. Hefyd bydd y swydd yn golygu cefnogi digwyddiadau ar hyd a lled y Sir a chyda fy Nghonsort a’m gŵr Dafydd Densil Morgan, gobeithiwn y gallwn gyflawni hyn.

Diolch yn fawr iawn i chi Ann am ateb cwestiynau Clonc a Clonc360. Dymunwn yn dda iawn i chi ar gyfer eich blwyddyn yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.