Lle glanio hofrennydd ar gyrion Llanybydder

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo cais i adeiladu pad glanio ger Llanybydder.

gan Ifan Meredith

Cyflwynwyd y cynllun gan Jason Thomas o fferm Crugywhil i bwyllgor cynllunio yn ôl llythyr a gyflwynwyd yn rhan o’r cais ym mis Gorffennaf eleni. Bellach cymeradwywyd y cais gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod ar y 17eg o Hydref.

Bydd y pad glanio yn cael ei leoli ar safle fferm Crugywhil o eiddo Jason Thomas sydd hefyd yn berchen cwmni Aneurin Thomas Ploughing, contractiwr sy’n gosod gwifrau yn y ddaear ar draws Ewrop.

Prif fwriad y pad glanio yw hwyluso teithio i gleientiaid y cwmni.  Yn ôl y cyfiawnhad a gyflwynwyd gyda’r cais, bydd y cynllun o fudd yn lleol gan fyddai’r pad yn darparu “lleoliad diogel i lanio mewn argyfwng” gan hefyd nodi byddai hawl gan y Grid Cenedlaethol defnyddio’r pad ar gyfer eu gwaith.

Gall yr awyr-fan yn yr ardal felly fod yn fwy prysur gyda’r datblygiad yma gyda disgwyl i hediadau fod rhwng Llanybydder ag Ewrop ynghyd â lleoliad newydd ar gyfer hediadau argyfwng neu waith cynnal a chadw hanfodol.