Hapus i siarad : Lansio cynllun newydd i groesawu dysgwyr Cymraeg

Ar ddydd Sadwrn, lansiwyd cynllun newydd er mwyn annog siaradwyr Cymraeg newydd i ddefnyddio’r iaith

gan Ifan Meredith

Mae cynllun ‘Hapus i siarad’ yn gynllun ar y cyd rhwng Is-bwyllgor yr Iaith Gymraeg Cyngor Tref Llanbed a Menter Iaith Ceredigion, Cered. Mae posteri ar ffenestri dros 30 o fusnesau Llanbed yn dangos i ddysgwyr Cymraeg bod gweithwyr y busnesau yn siarad Cymraeg.

“cynllun cyffrous iawn”

Yn ôl Cered, mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr “ddarganfod cyfleoedd gallwch chi ymarfer siarad Cymraeg”.

Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynnal sgyrsiau yn y Gymraeg. Bydd y cynllun yn gweithio ar system gardiau teilyngdod lle bydd yn rhaid i ddysgwyr gael sgwrs yn y Gymraeg dair gwaith er mwyn cael cyfle i ennill gwobr.

“agor ein llygaid at faint mor gryf yw’r Gymraeg”

Wrth gyflwyno’r cynllun, medd Maer y Dref, Rhys Bebb Jones gall y cynllun “weithio yn unrhyw ran o Gymru”.

“helpu siaradwyr i gyd, nid yn unig dysgwyr, i wybod le i ddefnyddio’r Gymraeg”

Yn y lansiad, roedd y Clwb Bowlio yn llawn siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ac medd rhai o’r siaradwyr ei fod yn gynllun fydd yn “annog ac yn hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn Llanbed ac yng Ngheredigion”.