Haydn yn gwerthfawrogi’r profiad o weld hen injan ei dadcu yn gweithio

Arddangos injan Corbett Williams yn Sioe Talgarreg

Gary Jones
gan Gary Jones

Ddoe adunwyd Haydn Richards o Lanwnen (yn y llun ar y chwith) ag injan a werthodd flynyddoedd yn ôl i’r diweddar Ron Hughes Sangini yn y 90au cynnar.  Ailwerthodd Ron yr injan i Andy Doncaster o Sir Benfro yn 2017 a lwyddodd i redeg yr injan ar ôl ailadeiladu maith a gwneud rhai darnau ar gyfer yr injan.

Mae’r injan Corbett Williams prin hon a adeiladwyd yng Nghymru yn Rhyddlan Gogledd Cymru yn un yn unig o’r ddwy injan sydd ar ôl. Dyma’r ail un a adeiladwyd tua 1910 gyda rhif injan 002.

Prynodd Andy yr injan yn arbennig ar gyfer Sioe Talgarreg er mwyn i Haydn allu gweld yr injan yn gweithio o’r diwedd.  Prynodd ei dadcu – Samuel Richards yr injan yn newydd tua 1910-1915 ar gyfer Fferm Lowtre.