Ganwyd Carter yn 1924 yn nhalaith Georgia ac etholwyd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1977 cyn i Ronald Regan ei guro yn etholiad arlywyddol 1980.
Roedd Carter yn Ddemocrat a fu’n cynrychioli talaith Georgia yn y Senawd rhwng 1963 a 1967 cyn llywodraethu talaith Georgia yn dilyn etholiad y dalaith honno yn 1970 tan ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn etholiad 1976.
Bu’n gweithio yn ddiwyd gyda symudiadau hawliau dynol ac yn 2002, enillodd Wobr Heddwch Nobel am ei waith.
Roedd ganddo ddiddordeb yng ngwaith llenyddiaeth Dylan Thomas ac ar ymweliad â Phrydain yn 1977, esboniodd y dylid gosod cofeb i gofio am Dylan Thomas yng nghornel y beirdd yn Abaty San Steffan.
Wnaeth Carter ymweld yn aml â Chymru, yn enwedig y gorllewin. Bu’n rhan o’r ymgyrch i atal boddi Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach er mwyn darparu dŵr i Abertawe. Yn wir, bu fy nhad-cu (Dai Meredith) yn dosbarthu post iddo yn ardal Llanio ger Tregaron!
Yn 1995, ar ymweliad â’r ardal, bu’n ymweld â thafarn y Ram yng Nghwmann ac yn 2020, cyhoeddwyd erthygl ar Clonc360 yn cofio am yr ymweliad.