Kees Huysmans yn ennill Unawd Bariton/Bas 25 oed a throsodd

Y gŵr busnes o Lanbed yn mynd am y Rhuban Glas am yr ail dro

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Kees Huysmans o Lanbed a enillodd gystadleuaeth Unawd bariton / bas 25 oed a throsodd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddoe.  Daeth Barry Nudd Powell yn ail a Richard Rees yn drydydd.

Y beirniaid oedd Leah-Marian Jones, Gareth Rhys-Davies ac Elin Manahan Thomas.  Y cyfeilydd oedd Jeffrey Howard.

Bu’n rhaid i Kees gyflwyno dwy gân, un glasurol ac un Gymraeg, a’i ddewis e oedd Gweddi’r Pechadur a Neges y Cariadon.  Enillodd £150 yn rhoddedig gan Bapur Bro Tafod Elái.

Heddiw, bydd Kees yn mynd am y Rhuban Glas a hynny am yr ail dro.  Enillodd am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni yn 2016.

Llongyfarchiadau calonnog iddo a phob hwyl heddiw eto ym Mhontypridd.