Sefydlwyd Highmead Dairy gan fy nhad yn y flwyddyn 1958. Yn Highmead Terrace oedd y ffatri gynta ond dw i ddim yn cofio llawer am hynny. Pan symudwyd y busnes wedyn i Glanduar, un adeilad oedd yno i ddechrau. Ond, gydag amser, fe adeiladwyd rhyw bedwar neu bum estyniad.
Dechreuais weithio yn y ffatri pan o’n i’n ddeunaw oed. Fy mreuddwyd oedd bod yn bensaer ac ro’n i hyd yn oed wedi dechrau ar gwrs lefel A. Ond, ar ôl blwyddyn, penderfynais ddilyn trywydd gwahanol ac ymuno â’n nhad yn y busnes. Ro’n i’n gyfrifol am y gwaith papur ac yn gweithio ar lawr y ffatri hefyd, gan helpu i gael y llaeth mas a golchi’r peiriannau. Yn y dyddiau cynnar, ro’n i’n gwneud y gwaith papur yn y tŷ gan ein bod yn byw drws nesa ond gydag amser, adeiladwyd estyniad a chyfle felly i gael swyddfa. Ymunodd Richard fy mrawd â ni wedyn ar ôl iddo adael yr ysgol yn un ar bymtheg. Roedd e’n dda iawn gyda’i ddwylo ac yn gallu atgyweirio’r peiriannau. Mam wedyn oedd yn paratoi bwyd ar ein cyfer. Roedd hithau’n helpu gyda’r gwaith papur ond hefyd yn cadw trefn ar bawb.
Mae’n siŵr bod nifer ohonoch yn cofio Richard fy mrawd. Roedd e’n dipyn o dderyn a dweud y gwir ac yn mwynhau jôc a threulio amser gyda’i ffrindiau. ‘Work hard, play hard’ oedd meddylfryd Richard bob amser a doedd dim byd yn bod ar hynny. Yr adeg honno, roedd lot o chwarae dwli yn y ffatri a lot fawr o dynnu coes ac roedd Richard wrth gwrs yn ei chanol hi. Ar benwythnosau wedyn, lan ag e a’i ffrindiau i’r mynydd i sgramblo beiciau modur. Roedd hi’n gyffredin iawn i bobl ifanc yr adeg honno, brynu hen geir ac roedd hynny’n apelio’n fawr at Richard. Buodd e’n dreifo Wolseley o gwmpas am sbel. Car fy nhad-cu oedd hwnnw a Richard gafodd e ar ôl iddo farw. Roedd y car bach yn aml yn llawn dop o gyrff a bant â nhw wedyn o gwmpas yr ardal gan wneud pob math o ddwli. Gydag amser, sylwais fod Richard wedi dechrau parcio’r car yn y fath fodd fel nad o’ch chi’n gallu gweld ei ben blaen. Ond buan wrth gwrs y sylweddoles i’r rheswm am hynny. Roedd yr hen gar wedi cael ergyd a Richard o ganlyniad yn ceisio sicrhau nad oedd ei dad yn gallu gweld y difrod. Drygioni diniwed oedd y cyfan! Dilyn dad oedd e achos roedd hwnnw’n dipyn o dderyn pan oedd e’n ifanc. Roedd diddordeb gan dad mewn beiciau modur ac roedd e lan i bob math o bethe. ‘Game for a laugh’ wastad! Cyn i Richard fynd allan gyda’i ffrindiau ar nos Sadwrn, rhaid oedd hôl ychydig o arian o’r bag a oedd yn dal arian llaeth a hynny heb yn wybod i mam na dad wrth gwrs. Oedd, roedd e’n dipyn o foi!
Ar y dechrau, dim ond dosbarthu llaeth yn Llanybydder o’n ni. Yna, ymestynnwyd i Bencader, Llandysul a Llambed. Roedd tair ‘pick up’ gyda ni ac ro’n i’n dosbarthu’r llaeth yn uniongyrchol i’r cwsmeriaid a chasglu’r arian hefyd. Ro’n ni’n cnocio ar y drysau mewn rhai tai ond mewn tai eraill, roedd y cwsmeriaid yn gadael yr arian mewn lle diogel ar ein cyfer. Mewn ychydig o amser, aethon ni yn ‘Wholesalers’ gan ddosbarthu’r llaeth i ddynion llaeth annibynnol a ‘catering establishments’. Agorwyd ‘depots’ wedyn yn Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin.
Ond yn Ebrill, 1986, taenwyd cwmwl o dristwch dros ein teulu ni a’r pentref cyfan pan laddwyd Richard a’i ffrind Emyr mewn damwain car yn Llanllwni. Yn bendant, ni ddylai claddu eich brawd bach fod yn rhan o drefn bywyd. Ond, fel y gŵyr nifer ohonoch, mae bywyd yn gallu bod yn greulon dros ben. Un ar hugain oed oedd Richard a do, fe newidiodd ein bywydau ni dros nos.
Roedd y llaethdy’n lle oer iawn i weithio ynddo ac er i ni wynebu anawsterau niferus yn ystod gaeafau caled, llwyddon ni gael y llaeth allan bob dydd. Ro’n i’n dechrau gweithio am bump yn y bore ond roedd fy nhad yn dechrau am dri. Roedd mam yn poeni’n arw amdano gan ei fod ar ei ben ei hun yn y ffatri am gyfnod. Ond chwap ar ôl iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 80, cafodd driniaeth lawfeddygol a daeth y codi am dri i ben. O hynny ymlaen, fi oedd yn rhedeg y ffatri ond roedd yn rhaid i dad alw lawr yn ddyddiol wrth gwrs er mwyn cadw ei fys ar y pwls. Tyfodd y busnes gydag amser ac erbyn y diwedd, ro’n ni’n gwerthu llaeth yng Ngheredigion, Sir Gâr, Sir Benfro a rhannau o Forgannwg a Gwynedd. Ond mewn rhai blynyddoedd, penderfynwyd bod yr amser wedi dod i werthu’r ffatri. Felly, ar Fedi 30ain, 2011, daeth y cyfan i ben a chaewyd y drysau am y tro olaf.
I glywed mwy o hanes Llaethdy’r Dolau, mynnwch gopi cyfredol o bapur bro Clonc.