Llwyddiant yn yr Eisteddfod

Profiad newydd

Sut mae bawb? Dorette Stephens dw i a dw i’n cael gwersi Cymraeg ar Zoom. Gwyneth Davies yw fy nhiwtor i. Dw i wedi bod yn byw yng Nghymru am nifer o flynyddoedd. Cymro oedd fy ngŵr ac felly ro’n i’n ymwybodol o draddodiadau Cymreig fel Calennig, Dydd Gŵyl Dewi a’r Eisteddfod. Doedd dim amser gyda fi i ddysgu Cymraeg ar un adeg. Ro’n i’n rhy brysur gyda gwaith, y fferm a fy mhlant. Ond yn awr, ar ôl ymddeol, mae amser gyda fi i ddysgu Cymraeg.

Bob Dydd Llun dw i’n dysgu am ddwy awr. Dw i’n mwynhau yn fawr i ddysgu iaith newydd. Almaenes dw i a dw i’n gallu siarad tipyn bach o Ffrangeg ac wrth gwrs Saesneg. Dw i’n teimlo bod Cymraeg yn iaith arbennig. Mae’n swnio’n gerddorol ac mae’r gramadeg yn hynod!

Pan o’n i’n blentyn, ro’n i’n mynd i ysgol Ramadeg yn yr Almaen ac ro’n i’n arfer hoffi llefaru cerddi gan Goethe a Schiller. Hefyd ro’n i’n hoffi ysgrifennu cerddi a straeon.

Pan ofynnodd fy nhiwtor i mi gymryd rhan yn Eisteddfod y Dysgwyr, yng Nghlwb rygbi Llambed ar Fawrth 22ain, ro’n i’n meddwl, “ Pam lai?” Ces i lawer o help gan fy nhiwtor i lefaru ‘ Y Gors’. Roedd llawer o eiriau anodd yno i’w hynganu ond penderfynais roi cynnig arni. Es ati hefyd i ysgrifennu cerdd ar gyfer Cystadleuaeth y Gadair o dan y teitl ‘Cwm’ a gweithiais yn galed iawn arni.

Roedd llawer o bobl yn yr Eisteddfod. Llwyddais i i lefaru heb gamgymeriadau ond gydag acen Almaeneg gref. Cefais i’r drydedd wobr. Ro’n i’n teimlo’n hapus! Ar ôl hynny, gwrandawais ar feirniadaeth y Gadair. Deallais mai rhywun arall enillodd ond yn sydyn clywais i fy ffugenw i! Darllenodd y beirniad fy ngherdd i! Enillais i’r ail wobr! Do’n i ddim yn gallu credu’r peth! Roedd mor gyffrous ag ennill y loteri! Af i ymlaen i ddysgu Cymraeg tan y bydda i’n gallu siarad a deall Cymraeg heb broblemau. Diolch i fy nhiwtor am fy helpu i!

Dyma fy ngherdd i: