Maer cyntaf Bwrdeistref Llanbed

140 o flynyddoedd ers sefydlu William Jones fel y Maer a gyflwynodd y gadwyn aur hanesyddol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

William Jones, Glandenys, Silian oedd Maer cyntaf Bwrdeistref Llanbed pan roddwyd statws bwrdeistref i Lanbed yn 1884.

Cant a deugain blynedd yn ddiweddarach, defnyddir yr un gadwyn o aur gan y maer presennol, sef yr un gadwyn aur a gyflwynodd William Jones at ddefnydd y Maer ar achlysur ei sefydlu.

Roedd William Jones yn ŵyr i sylfaenydd Banc yr Eidion Du ac ef oedd yn gyfrifol am gangen Llanbed. Roedd yn uchel iawn ei barch yn y cylchoedd masnach. Ef oedd Llywydd cyntaf Cymdeithas Amaethyddol Llanbed ac yn 75 oed priododd ag Anne Isabel Fenton o Gaerhirfryn a oedd ond yn 23 oed.

Gwnaed defnydd helaeth o’r gyfrol Saesneg The Lovers Grave a gyhoeddwyd gan Bethan Phillips yn 2007 er mwyn dod o hyd i’r hanes diddorol hwn. Wedi marwolaeth Bethan yn 2019 trosglwyddwyd yr hawlfraint i’w theulu, felly rydym yn ddiolchgar iawn i John Phillips am yr hawl i ddefnyddio’r cyfan ac am yr anogaeth i gyhoeddi am Faer cyntaf Bwrdeistref Llanbed.

Roedd bod yn Faer yn siwr o fod yn uchafbwynt gyrfa i William Jones a gyda chefnogaeth ei wraig ifanc roedd yn benderfynol bod ei sefydlu fel Maer yn mynd i fod yn ddigwyddiad hanesyddol a fyddai’n rhoi noson i’w chofio i drigolion Llanbed.

Adroddwyd yn y Carmarthen Journal bod wyth bwa o blanhigion a baneri wedi eu gosod ar ffyrdd y dref, dau yn Stryd y Coleg, tri yn Stryd y Bont a thri yn y Stryd Fawr. Roedd baneri yn cyhwfan ar eiddo’r busnesau hefyd. Roedd poblogrwydd y Maer a’i wraig swynol yn amlwg.  Yn ei araith, dywedodd ei fod wedi bod yn breswylydd ers deng mlynedd ar hugain ac hyderai y byddai tymor o heddwch ac ewyllys da yn dilyn ei sefydlu.

Wedi’r seremoni, arweiniodd y ddau orymdaith drwy dyfraoedd edmygus yn y dref i gyfeiliant band pres. Cynhaliwyd chwaraeon yn nghae y coleg a mynychwyd y digwyddiad gan y Magnelwyr Brenhinol.

Gyda’r hwyr, talodd William Jones am ginio moethus ar gyfer Cyngor y Dref a gwesteion arbennig yng Ngwesty’r Castell.

Wedi iddi dywyllu roedd Llanbed yn llawn golau oherwydd y gofynnwyd i breswylwyr i gynnau canhwyllau yn eu ffenestri.

Uchafbwynt y noson oedd arddangosfa arbennig o dân gwyllt ar y Bryn yn Llanbed lle daeth trigolion y dref a bobl y wlad ynghyd i weld rhywbeth nas gwelwyd yn Llanbed o’r blaen. Am 8.30 yr hwyr gwelwyd arddangosfa ryfeddol o gynlluniau llachar yn ymestyn i’r ffurfafen. Trefnwyd y cyfan gan arbenigwyr tân gwyllt o Crystal Palace a phrofwyd arddangosfa a fyddai fel arfer ond yn digwydd mewn achlysuron brenhinol.

Roedd y gwylwyr yn gegrwth o weld rocedi lliwgar yn saethu drwy’r awyr ac yn disgyn i’r ddaear yn gawod o wreichion trawiadol. Gwelwyd olwyn unionsyth yn creu cylch perffaith o dân a chanol lliwgar a ffynnon anferth arian yn arllwys pelydrau amryliw.

Wedi oriau o adloniant ysblennydd cynhaliwyd y diweddglo ar Sgwâr Harford am hanner nos lle cododd balŵn i’r awyr a goleuo pob twll a chornel o’r dref. Dyma oedd y testun trafod am flynyddoedd i ddod ac i William Jones a’i wraig, roedd yn gyflwyniad gorfoleddus i’w blwyddyn fel Maer a Maeres cyntaf Llanbed.

Dyma ni felly yn 2024 yn diolch i Rhys a Shan Bebb Jones am eu gwaith diflino yn yr un swyddi.  Cynhaliwyd seremoni sefydlu Maer newydd neithiwr yn Hen Neuadd y coleg.  Dymunwn yn dda i Gabrielle Davies fel Maer newydd ynghyd a’i chonsort Ryan Davies wrth iddi dderbyn y gadwyn aur hanesyddol. Prin iawn oedd y tebygrwydd o ran y rhwysg a’r rhodres a fu adeg sefydlu William Jones, ond mae’r swydd yn bwysig a chefnogaeth y Maer i ddigwyddiadau ac achosion y dref a’i phobl yn hynod werthfawr.