Marchnad Llambed – ffarwel i Dinah

Ffarwel a diolch am 8 mlynedd yn rheoli’r Farchnad

gan Julia Lim

Daeth masnachwyr a chwsmeriaid y farchnad at ei gilydd ar ôl y farchnad ar Sadwrn y 25 o Fai, i ddweud ffarwel a diolch wrth Dinah Mulholland, rheolwr y Farchnad ers 2016. Roedd anrhegion o’r stondinau a chacen arbennig gan Gwens Cakes, a chynigwyd llwncdestun gyda chordial blodau ysgaw neu jin eirin cartref lleol. Roedd llawer o chwerthin a chofion da.

Tra roedd Dinah yn rheolwr enillodd Marchnad Llambed y Wobr Marchnad Gorau Bwyd Araf y Deyrnas Unedig yng Nghymru, ar ôl iddi ailagor y Farchnad  yn ddiogel tu fas dros y cyfnod clo. Roedd marchnad Llambed yn un o’r cyntaf i ailagor a rhoi cyfle i fasnachwyr lleol i werthu eu nwyddau.

Rheolwr newydd y farchnad yw Mara Morris: gallwch cysylltu â hi ar lampetermarket@gmail.com. Cynhelir y Farchnad pob yn ail a phedwerydd bore Sadwrn yn y mis.

Dweud eich dweud