Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar heol yr A475 toc ar ôl 12:00 prynhawn ddoe yn dilyn adroddiadau o dân. Bu criwiau tân Llanbed, Tregaron, Aberaeron, Aberystwyth a Phort Talbot yn bresennol yn y digwyddiad.
Tra bu’r frigâd dân yn taclo’r fflamau, bu heol yr A475 ar gau gyda’r Heddlu yn dargyfeirio traffig. Mae’r ffordd bellach wedi ail-agor.
Mewn datganiad, daeth cadarnhad bod dyn 83 oed wedi marw yn y digwyddiad. Daeth hyn yn sioc enfawr i drigolion y gymuned glos hon ac mae pawb dal yn methu amgyffred beth sydd wedi digwydd.
Esboniodd Heddlu Dyfed-Powys fod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan gynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu Dyfed Powys a bod disgwyl iddynt fod yn ymchwilio dros y penwythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys, “Nid yw’r tân, a gafodd ei gyfyngu i un eiddo, yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.”
Cydymdeimlir â theulu’r gŵr a fu farw yn ogystal â phawb yn ardal Drefach sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiad mor frawychus.