Bydd neb llai na’r Archdderwydd yn cyflwyno sgwrs arbennig yn Llanbed ar nos Iau 14 Tachwedd wrth i’r trefnwyr atgyfodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis.
Mererid Hopwood ydy’r Archdderwydd cyfredol wrth gwrs, a theitl ei darlith fydd Gweld â’m llygaid fy hun…’: edrych ar dirlun Cymru Fydd.
Festri Capel Brondeifi fydd lleoliad y digwyddiad blynyddol sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan Golwg a Clonc360, ac yn wir, yn cael ei hatgyfodi am y tro cyntaf ers gorfod cymryd egwyl dros gyfnod clo y pandemig.
Dathlu llenyddiaeth boblogaidd
Sefydlwyd Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis yn wreiddiol yn 2013 fel rhan o ddigwyddiad Gŵyl Golwg – gŵyl a drefnwyd i ddathlu chwarter canrif ers sefydlu cwmni a chylchgrawn Golwg yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae cysylltiad agos rhwng Islwyn Ffowc Elis a Llanbed gan iddo fod yn ddarlithydd yn y Brifysgol yno am bymtheg mlynedd, a theimlwyd bod sefydlu’r ddarlith goffa’n ffordd briodol o nodi’r berthynas honno, yn ogystal â thalu teyrnged i’r gŵr sy’n cael ei gydnabod fel un o awduron pwysicaf yr iaith Gymraeg.
Gerwyn Williams oedd yn gyfrifol am draddodi’r ddarlith gyntaf honno, ac fel rhan o waddol yr ŵyl, cynhaliwyd y Ddarlith Goffa’n flynyddol wedi hynny gyda ffocws ar ysgrifennu poblogaidd, pwnc oedd yn agos at galon Islwyn Ffowc Elis.
Arwyddocâd arbennig
Bydd Mererid Hopwood yn dilyn ôl traed nifer o enwau pwysig ym myd llenyddiaeth Gymraeg trwy draddodi’r ddarlith, gan gynnwys ei rhagflaenydd fel Archdderwydd.
Ymysg y rhai sydd wedi traddodi’r ddarlith wedi hynny mae Bethan Gwanas, Emyr Llew a Caryl Lewis, yn ogystal ag Archdderwydd diweddaraf Cymru, Myrddin ap Dafydd.
Yn wir, Myrddin ap Dafydd oedd yn gyfrifol am y Ddarlith Goffa ddiwethaf cyn i Covid ddod i dorri ar yr arfer o’i chynnal. Mae’n briodol felly mai ei olynydd yn swydd yr Archdderwydd fydd yn ailgynnau’r fflam ac ailsefydlu’r ddarlith fel digwyddiad blynyddol.
Mae arwyddocâd pellach dros atgyfodi’r digwyddiad y mis hwn gan ei bod yn union ganrif ers dyddiad geni’r awdur – fei’i ganed ar 17 Tachwedd 1924 yn Wrecsam.
“Ganrif bron yn union i ddydd geni Islwyn Ffowc Elis, rwy’n edrych ymlaen at gael mynd am dro drwy rai o dirluniau enwog ei waith gan ystyried beth yw arwyddocâd ei bortreadau o goed yn benodol i ni heddiw,” meddai Mererid Hopwood wrth edrych ymlaen at y noson.
Mae tocynnau Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis ar werth nawr am ddim ond £5 o siop Smotyn Du yn Llanbed, neu gellir archebu tocynnau ar-lein neu wrth y drws ar y noson.