Methu prawf gyrru y tro cyntaf am oryrru!

Yr hyfforddwraig ffitrwydd o Bencarreg yn datgelu ei chyfrinachau ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
15EDCE2B-2AEA-411B-9BAB

Samantha Weller-Pryce o Bencarreg sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc.  Dyma flas i chi o’i hatebion:

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Methu prawf gyrru y tro cyntaf am oryrru.

Pryd chwydaist ti ddiwethaf?
Gweld posts pawb ar Valentines.

Pryd est ti’n grac ddiwethaf?
Bod yn styc tu ôl i bobl yn mynd 20 yn 30.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?
Sicrhau swydd o’n i moen diwrnod ar ôl graddio.

Ac yn bersonol?
Diolchgar am fod mor hapus, yn gallu gwneud beth fi moen ar ôl llawdriniaeth.

Y gwyliau gorau?
Twrci gyda mam, brawd a the Heath’s.

Gallwch ddarllen mwy o ymatebion yr haden hon wrth brynu rhifyn diweddaraf Clonc yn y siopau lleol neu drwy danysgrifio ar y we.