NEWYDD DORRI : Tân mewn tŷ yn Drefach

Mae gwasanaethau brys yn ymateb i dân mewn cartref yn Drefach.

gan Ifan Meredith
licencecheckpressrelease-1Fleet News

Mae tân difrifol mewn tŷ wrth ymyl heol yr A475 yn Drefach gyda’r heol wedi ei gau ar gyfer cerbydau.

Toc ar ôl 12:00 y prynhawn ’ma daeth adroddiadau am dân yn Drefach. Bellach, mae’r Heddlu wedi cau heol yr A475 gan annog teithwyr i ddefnyddio ffyrdd eraill i deithio.

Mae’r ffordd bellach wedi ail-agor fore Iau (12.12.24).

Mae gwasanaethau Tân, Ambiwlans a Heddlu yn bresennol yn y digwyddiad lle mae mwg yn codi o dŷ. Mae’r frigâd dân wedi ei galw o 5 gorsaf gwahanol, Llanbed, Tregaron, Llandysul, Aberaeron, Aberystwyth a Phort Talbot, er mwyn taclo’r fflamau.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, cafodd y criwiau o’r gorsafoedd eu galw am 12:12yp at ddigwyddiad ar heol yr A475 rhwng Drefach a Rhydowen. 

“Mae’r digwyddiad yn parhau ac mae’r criwiau yn ymateb i dân mewn eiddo sydd yn parhau i losgi. Mae’r criwiau yn defnyddio pibellau a phympiau i frwydro’r tân” meddai.

Dywedodd y llefarydd y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ryddhau pan fyddai ar gael.

Dweud eich dweud