gan
Dylan Lewis
![8B8DBA6A-B98D-480C-AAAC](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/03/8B8DBA6A-B98D-480C-AAAC-636x394.jpeg?d)
Llun gan Mari Lewis
Wedi 4.30 o’r gloch y prynhawn yma gwelwyd a chlywyd nifer fawr o gerbydau gwasanaethau brys yn gwibio trwy Lanbed i gyfeiriad Cwmann.
Roedd swyddogion heddlu, ambiwlans a’r gwasanaeth tân yn bresennol ger bont Nant Hathren ar y B4343 Heol Cellan mewn digwyddiad yno. Does dim unrhyw fanylion pellach wedi eu rhyddhau.
Mae’r ffordd rhwng Cwmann a Chellan bellach ar agor, ond mae nifer o swyddogion heddlu dal yn bresennol.