Newydd Dorri : Damwain yn cau yr A482

Cau darn o heol rhwng Llanbed a Phumsaint oherwydd damwain.

gan Ifan Meredith
IMG_6125
81c78072-b08b-449c-8909

Llun gan Poppy Thomas

Mae damwain wedi achosi i heol yr A482 rhwng Llanbed a Phumsaint i gau.

Adroddir i’r Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Ambiwlans fod yn bresennol yn y digwyddiad.

Mewn datganiad, mae Heddlu Dyfed Powys yn galw ar bobl i osgoi’r ardal a “dod o hyd i lwybr arall ar gyfer eich taith os gwelwch yn dda.”