NEWYDD DORRI – Tân mewn bwthyn yn Llanfair Clydogau neithiwr

Ymateb cyflym gan griwiau tân Llanbed, Tregaron, Llanymddyfri, Llandysul ac Aberystwyth

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Am 9.35 o’r gloch neithiwr, Chwefror 8fed, cafodd criwiau tân Llanbed, Tregaron, Llanymddyfri, Llandysul ac Aberystwyth eu galw i dân yn Llanfair Clydogau yn dilyn adroddiadau am fflamau gweladwy.

Mewn datganiad gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru dywedwyd,

“Ymatebodd y criwiau i fwthyn domestig unllawr a oedd ar dân wrth iddynt gyrraedd. Roedd y tân wedi’i gyfyngu i gegin a gofod to’r eiddo a defnyddiodd y criwiau dair pibell bwysedd uchel, dwy set o offer anadlu, gêr bach ac un ysgol estyniad fer i ddiffodd y tân. Defnyddiodd y criwiau hefyd ysgol trofwrdd i dorri rhan o do’r eiddo er mwyn cael mynediad haws. Dinistriwyd yr eiddo yn rhannol gan y tân ond doedd neb wedi anafu.”

Gadawodd y criwiau y lleoliad tua un o’r gloch bore ma.

Erbyn heddiw mae cymdogion a thrigolion Llanfair yn estyn pob cymorth posib i’r preswylwyr sydd mewn tipyn o sioc ar ôl y digwyddiad.  Hysbyswyd ar grŵp Llanfair Clydogau ar facebook bod digon o ddillad wedi dod i law.