Nifer anhygoel yn mynychu cyfarfod galw heibio am y peilonau heddiw

Pobl Cellan yn dangos eu lliwiau wrth i GreenGEN Cymru rannu gwybodaeth

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_0758

Llun gan Chris Lambert.

IMG_0760

Elin Jones AS yn y cyfarfod. Llun gan Carolmarie Baxter-Chamberlin Seager.

IMG_0759

Ben Lake AS yn cyrraedd y cyfarfod. Llun gan Carolmarie Baxter-Chamberlin Seager.

IMG_0756

Llun gan Chris Lambert.

IMG_0757

Llun gan Chris Lambert.

Cynhaliwyd cyfarfod galw heibio yn Neuadd Mileniwn Cellan heddiw lle bu cwmni GreenGEN Cymru yn rhannu gwybodaeth am y peilonau â’r cyhoedd.

Dywrdodd Chris Lambert o Gellan,

“Nifer anhygoel yn bresennol yn Neuadd Cellan ar gyfer y digwyddiad ymgynghori gyda GreenGEN Cymru ar y peilonau arfaethedig a’r ceblau trydan uwchben ar hyd Dyffryn Teifi/Dyffryn Tywi.

Mae’r digwyddiad yn parhau tan 7yh. Peidiwch â cholli’r cyfle gwerthfawr hwn i ofyn eich cwestiynau a lleisio’ch barn.”

Dywedodd Carolmarie Baxter-Chamberlin Seager,

“Rydyn ni wedi cael y nifer mwyaf anhygoel heddiw! Bu Mr Ben Lake a Ms Elin Jones yma hefyd.”

Gwelwyd posteri a baneri yn arddangos negeseuon “Dim Peilonau” yn mhob cornel o’r ardal.

Bydd cyfarfod arall yfory (Dydd Gwener Chwefror 23ain) rhwng 2yp a 7yh yn Festri Aberduar, Llanybydder.