Noson Eisteddfodau Sir y Ffermwyr Ifanc

Blog byw o aelodau lleol yn cystadlu yn Ysgol Bro Myrddin a Phafiliwn Pontrhydfendigaid

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
DECD67B2-DF67-438D-8892-639C77FF25F0

Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heno gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu.  Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.

Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.

Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt.  Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.

Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill.  Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?

Aeron360

BroAber360

BroCardi360

Caron360

Carthen360

Cwilt360

22:35

e73ca911-7f09-4647-b5e8

Llun gan Megan Dafydd.

#SirGâr Ensemble lleisol Clwb Llanllwni.

22:32

#Ceredigion Mae yna broblem technegol gyda diweddariadau o Bontrhydfendigaid heno.  Daw lluniau a chanlyniadau maes o law.

21:33

#SirGâr Llywyddion y noson – Aled ac Eleri Cilycwm.

21:30

IMG_2645

#SirGâr Sgets Clwb Llanllwni.

21:05

#SirGâr Dawnswyr Clwb Dyffryn Cothi.

21:04

#SurGâr Dawnswyr Clwb Cwmann.

21:02

IMG_2629

#Ceredigion Trefn y noson ym Mhontrhydfendigaid.

20:19

#SirGâr Cynulleidfa dda yn Ysgol Bro Myrddin, a mwy o gadeiriau yng nghefn y neuadd erbyn hyn.

20:03

IMG_2627

#SirGâr Dyma raglen y noson yn Ysgol Bro Myrddin heno.