Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heno gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu. Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.
Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.
Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt. Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.
Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill. Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?
Aeron360
BroAber360
BroCardi360
Caron360
Carthen360
Cwilt360
#SirGâr Diolch i Carwen Richards am ddanfon canlyniadau’r noson ymlaen i Clonc360.
Unawd Alaw Werin
“Cystadleuaeth o safon uchel”
=3 Daniel O’Callaghan, Penybont
=3 Hannah Richards, Penybont
2 Sioned Beynon, Penybont
1 Carwen George, Dyffryn Cothi
Ensemble Offerynnol
1 Llanddarog
Dawnsio Gwerin
3 Cynnwyl Elfed
2 Llanddarog
1 Capel Iwan
Ymgom o dan 17 oed
3 San Pedr
2 Llanddarog
1 Capel Iwan
Dawnsio Disgo / Hip Hop / Stryd
3 Llangadog
2 Cwmann
1 Dyffryn Cothi
Sgets
3 Penybont
2 Llangadog
1 Llanllwni
Ensemble Lleisiol
=3 Capel Iwan
=3 Llangadog
2 Llanllwni
1 Penybont
#SirGâr Ensemble lleisol Clwb Llanllwni.
#Ceredigion Mae yna broblem technegol gyda diweddariadau o Bontrhydfendigaid heno. Daw lluniau a chanlyniadau maes o law.
#SirGâr Llywyddion y noson – Aled ac Eleri Cilycwm.
#SirGâr Sgets Clwb Llanllwni.
#SirGâr Dawnswyr Clwb Dyffryn Cothi.
#SurGâr Dawnswyr Clwb Cwmann.
#Ceredigion Trefn y noson ym Mhontrhydfendigaid.
#SirGâr Cynulleidfa dda yn Ysgol Bro Myrddin, a mwy o gadeiriau yng nghefn y neuadd erbyn hyn.
#SirGâr Dyma raglen y noson yn Ysgol Bro Myrddin heno.