‘On i’n ‘obsessed’ â ‘Star Wars’

Prentis gyda Ceredigion Actif sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc, Dewi Hobbs o Lanbed sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau. Dyma flas i chi o’r hyn a ddatgelodd.

Pan oeddet yn blentyn, beth oeddet eisiau bod ar ôl tyfu?

‘On i arfer eisiau bod yn ofodwr achos ‘on i’n ‘obsessed’ â ‘Star Wars’

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?
Parot achos fi byth yn cau fy ngheg

Beth yw dy arbenigedd?
Siarad cachu

Beth yw’r siopau annibynnol lleol wyt ti’n ymweld â nhw fwyaf aml a pham?
Conti’s am yr hufen iâ a’r coffi gorau

Pryd est ti’n grac ddiwethaf?
Pob tro fi’n gweld faint o tax ma’n rhaid i fi dalu

Cofiwch brynu copi eich hunan i ddarganfod mwy amdano.  Mae Clonc ar werth mewn siopau lleol neu fel tanysgrifiad digidol ar y we.