Bu Emyr ac Eirwyn yn dosbarthu llaeth Highmead Dairy am flynyddoedd. Mae Eirwyn wedi ein gadael erbyn hyn yn anffodus ond diolch i Gwenda ei wraig am rannu ychydig o’i hanes â ni.
Atgofion Emyr
Pan o’n i’n grwtyn ysgol, roedd ‘Highmead Dairy’ bryd hynny lawr yn ‘Highmead Terrace’. Sied sinc oedd yno ac ro’n i’n clywed sŵn poteli wrth gerdded heibio. Dyna’r unig gof am y lle sydd gen i a dweud y gwir. Ond pan benderfynwyd adeiladu adeilad newydd yng Nglanduar, ro’n i yno yn helpu fy nhad i gwympo’r goeden dderwen. Cae oedd e cyn hynny gyda darn cul wedi’i neilltuo fel gardd i’r tŷ gyferbyn, sef Einon View. Mari Humphries oedd yn byw yn Einon View a dw i’n siŵr bod sawl un yn y pentref yn cofio amdani’n pobi bara a’i werthu o’i thŷ. Roedd sied sinc ar dop yr ardd ac yno roedd hi’n cadw ffowls. Ted, tad Wil oedd perchennog y cae drws nesa ac roedd defaid yn pori yno.
Roedd clyrio ar gyfer adeiladu’r ffatri yn dipyn o waith. J.C.B oedd wrthi’n ddiwyd gan nad oedd ‘diggers’ mawr i gael bryd hynny. Yna, ar ôl yr holl waith caled, codwyd yr adeilad ATCOST a dw i’n ei gofio’n cyrraedd y safle mewn sawl darn. Un peiriant oedd yn y sied i ddechrau a’r adeg honno, roedd mam, Ann Gaffrey a Tegwen Wheetley yn gweithio yno. Golchi’r poteli brwnt oedd eu gwaith nhw. Gan nad o’n nhw’n potelu’r llaeth, doedd dim angen iddyn nhw ddechrau’n fore. O 8-12 oedd eu diwrnod gwaith nhw felly. Bu mam yn gweithio yn y ffatri am ryw dair blynedd ac un peth dw i’n cofio am y lle yw bod angen i’r gweithwyr oedd yn rhoi’r llaeth yn y poteli, roi caead ar bob potel eu hunain. Roedd peiriant llaw gyda nhw ar gyfer y gwaith hwn. Doedd dim dyddiad ‘use by’ yn cael ei roi ar boteli yr adeg honno wrth gwrs.
Cyn gallu potelu’r llaeth, roedd yn rhaid i rywun ei gasglu o’r ffermydd. Dai Sanders oedd y dyn oedd yn gwneud hynny ac roedd ‘pick up’ gydag e at y gwaith. Rhaid oedd mynd draw i glos pob ffarm i gasglu’r ‘churns’ llawn. Doedd y llaeth ddim yn cael ei basteureiddio yr adeg honno. Ond fe newidiodd pethe nes ymlaen a dechreuodd y ‘Milk Marketing Board’ yn Felinfach gasglu’r llaeth o’r ffermydd a dod ag e i’r llaethdy. Dyn lleol oedd yn gyrru’r lori honno sef Fred Evans, Bankyfelin, Llanybydder.
Ym 1976 y dechreuais i gyda’r llaeth. Dyna pryd holodd Wil a hoffai Eirwyn fy mrawd a minnau ddosbarthu llaeth yn yr ardal. Roedd Eirwyn yn gweithio i ‘Highmead Dairy’ yn barod ac yn dreifo un o’r lorïau. Un ‘pick up’ oedd gyda ni ar y dechrau achos mai un rownd oedd hi. Doedd hyn wrth gwrs ddim yn ddigon i’n cynnal ni. a bu’n rhaid chwilio am rywbeth ychwanegol. Buon ni’n lwcus i gael gwaith yn ‘sawmills’ Crossroads, Llanllwni ac felly, un wythnos, ro’n i’n gweithio yn y dairy tra bod Eirwyn yn Crossroads a’r wythnos wedyn ro’n ni’n cyfnewid. Roedd e’n gweithio’n hwylus iawn i’r ddau ohonon ni. Mewn ychydig amser, dywedodd Wil fod rownd arall gydag e i ni. Felly, gorffennon ni yn ‘Crossroads’ a phrynu ‘pick up’ arall. Roedd un rownd o gwmpas Llanybydder a’r cylch a’r llall yn ardal Pencader a Llanfihangel ar arth. Roedd y ddau ohonon ni’n gyfarwydd â’r ddwy rownd a dweud y gwir gan ein bod ni’n cyfnewid o hyd. Ro’n ni’n gweithio 7 diwrnod yr wythnos am y blynyddoedd cynta ac ro’n ni’n casglu’r arian bob nos Wener, dydd Sadwrn a bore dydd Sul – dosbarthu a chasglu yr un pryd.
Ces i lot o sbri wrth ddosbarthu llaeth a chwrddes i â lot o gymeriadau. Mae’n syndod beth chi’n gweld am bump o’r gloch – rhai yn mynd i’r gwaith ben bore tra bod eraill yn gadael am resymau gwahanol. Do’n nhw ddim hyd yn oed yn byw yno ond stori arall yw honno. Roedd ambell un yn cynhyrfu’n lân wrth fy ngweld i ac yn mynd i guddio’n syth tu ôl rhai o’r ceir a oedd wedi parcio tu allan. Wrth eu pasio wedyn, ro’n i bob amser yn hoffi dweud ‘bore da’ i ddangos mod i wedi eu gweld.
Ro’n ni’n gwerthu llaeth yn ysgolion Llanllwni, Llanybydder, Pencader, Llanfihangel ar arth, Llanwenog a Chapel Dewi ac ro’n ni’n mynd â churn 10 galwn i Ysgol y Dolau hefyd. Ar Noswyl y Nadolig ro’n i’n cael ‘drink’ gyda rhai o’r cwsmeriaid. ‘Tamaid bach’ ro’n i’n dweud ond roedd y gwydryn cael ei lenwi wastad. Yn y saithdegau oedd hyn- cyn bod unrhyw sôn am ‘drinking and driving’. Dwblu lan wedyn o’n i’n gwneud gyda phawb ar Noswyl y Nadolig er mwyn i fi gael diwrnod Dolig bant. Ond erbyn bore’r ŵyl, ro’n i wedi blino’n lân. Pan ddechreuais i ar y rownd laeth, dyna’r unig ddiwrnod ro’n i’n cael bant y flwyddyn. Ond yna ar ôl rhyw ddwy flynedd, dechreuais i gael dydd Sul bant hefyd a Dydd Calan. Lot o waith gan fod yn rhaid i ni fynd nôl i’r dairy o hyd i gael rhagor o laeth.
Adeg yr eira mawr ym 1982 oedd yr unig dro i ni fethu mynd mas â llaeth. Roedd lluwchfeydd gyda ni lan i’r nenfwd y bore hwnnw. Ar Orffennaf 30ain, 2010 penderfynais roi’r gorau iddi ac ar ôl gorffen â’r rownd laeth, arhosais gartre i ffermio a phrynais ragor o dir.
Dyma ychydig o hanes Eirwyn gan Gwenda ei wraig:
Fe ddechreuodd Eirwyn weithio i Highmead Dairy tua 1971. Dreifo lori oedd e i ddechrau ac roedd e’n dosbarthu yn ardaloedd Bow Street, Castell Newydd Emlyn a Llandysul. Ym 1976 wedyn, fe ddechreuodd weithio fel dyn llaeth, gan ddosbarthu o ddrws i ddrws a rhannu rownd ag Emyr ei frawd. Mae gen innau fel Emyr atgofion am Eirwyn yn cael trafferthion wrth ddosbarthu llaeth pan oedd hi’n rhewi’n galed. Dw i’n cofio ‘hood’ ei got yn rhewi ar groen ei wyneb droeon a minnau’n gorfod cael ‘flannel’ cynnes i’w ddadlaith. Roedd y ddau’n gorfod dosbarthu llaeth mewn ffermydd anghysbell ac fe fydden nhw’n mynd â llythyron yn ogystal gyda nhw. Gwneud ffafr â’r postmon o’n nhw wrth gwrs. Fel y dywedodd Emyr, ro’n nhw’n gwneud cymwynas â sawl cwsmer. Roedd angen help ar bobl yn enwedig yr henoed. Lwcus felly eu bod nhw’n dda gyda D.I.Y achos roedd tipyn o alw am hynny. Roedd mwy o bobl yn estyn llaw ac yn barod i helpu yr adeg honno.
Fel yr oedd amser yn mynd yn ei flaen, roedd llai o bobl yn prynu llaeth o ddrws i ddrws. Felly, doedd dim digon o waith i Eirwyn ac Emyr. O ganlyniad, cafodd Eirwyn waith yn y ffatri am beth amser tan iddo ymddeol ym 1998 ond parhaodd Emyr i ddosbarthu o ddrws i ddrws.
Os hoffech wybod mwy am y ddau frawd, mynnwch gopi cyfredol o bapur bro Clonc.