Paid byth â bwyta eira melyn!

Owen Llyr Davies yn ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
C116A0DF-B79C-4A95-A051

Gallwch weld Owen Llyr Davies yn gweithio tu ôl y bar yn y Llew Du, Aberaeron. Tipyn o gymeriad, a fe sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc.

Dyma flas i chi o’i ymatebion:

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
Paid byth a bwyta eira melyn.

Pan oeddet yn blentyn, beth oeddet eisiau bod ar ôl tyfu? Golygus.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?
Eliffant – Tal, bola mawr a chofio popeth!

Beth yw dy arbenigedd?
Tollti peint golew.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Yr Ivy Bush yn galw last orders.

Unrhyw ofergoelion?
Rhoi hosan chwith arno cyn yr hosan dde.

Pa un peth fyddet ti’n newid am dy hun?
Bod seis esgidiau yn llai.

Unrhyw dalentau cudd?
Gallu cyffwrdd fy nhrwyn gyda fy nhafod.

Er mwyn dydgu mwy am Owen, mynnwch eich copi personol chi o rifyn Ebrill Papur Bro Clonc sydd ar werth yn y siopau lleol ac ar gael fel tanysgrifiad digidol ar y we.