Parcio am ddim ar ddyddiau Sadwrn dros yr ŵyl

Cyhoeddiad gan Gyngor Sir Ceredigion y bydd parcio am ddim ar feysydd parcio talu ac arddangos.

gan Ifan Meredith
Maes Parcio Cwmins

Mae Rhagfyr wedi cyrraedd ac mae tymor y Nadolig wirioneddol wedi cyrraedd. Bydd yr wythnosau nesaf yma yn brysur yn ein trefi with i bawb heidio i chwilio am anrhegion Nadolig ac yng Ngheredigion am y tri dydd Sadwrn sydd tan ddydd Nadolig, bydd modd parcio am ddim ar feysydd parcio talu ac arddangos y cyngor.

Golyga hyn yn Llanbed b

Bydd modd parcio am ddim ar feysydd parcio’r Cwmins a Rwceri ar ddydd Sadwrn y 7fed, 14eg ac 21ain o Ragfyr a chefnogi’r busnesau lleol yn y dref dros gyfnod yr ŵyl.

“hapus iawn fod parcio am ddim am 3 Sadwrn cyn y Nadolig”

Mae’r Cynghorydd lleol, Ann Bowen Morgan yn croesawu’r cyhoeddiad ac yn obeithiol “cawn 2 awr am ddim yn ddyddiol yn y dyfodol”.

Dweud eich dweud