Penblwydd Prosiect Bwyd Cymunedol Llanbed

Dathlu blwyddyn ers bod yn Minds Eye

gan Jane Rimmer

Cacennau, cawl a chloncian – dyna oedd y nod yn “Minds Eye” yn ddiweddar pan fu’r Prosiect Bwyd Cymunedol (Llanbed) yn dathlu blwyddyn ers bod yn yr adeilad honno. Fe wnaeth bawb fwynhau clonc tra’n aros am eu bwyd poeth a blasus – gydag ychwanegiad o gacennau hyfryd hefyd!

Cynhelir y Prosiect Bwyd Cymunedol (Llanbed) bob Dydd Mawrth yn “Minds Eye”, Ffordd y Gogledd, Llanbed rhwng 12-2yp. Gall unrhyw un ddod i gael bwyd poeth, a derbyn pecyn o fwyd yn rhad ac am ddim. Does dim eisiau i chi gael eich cyfeirio.

Gweithredir y prosiect yn gyfan gwbl gan wirfoddelwyr a cheir rhoddion rheolaidd gan Delyth@Tonys, Animals in Mind, Watson & Pratt’s, Bara Gwalia, Ladybug a Sainsburys.

Os oes rhywun eisiau rhoi bwyd neu nwyddau golchi neu ddillad, gallwch ddod â nhw i Minds Eye ar Ddydd Mawrth rhwng 11-1.30yp – neu gallwch anfon ebost i food.project.lampeter@gmail.com i drefnu casgliad.

Bydd y gwirfoddelwyr yng Ngŵyl Fwyd Llambed ar 27 Gorffennaf, felly dewch i’n gweld ni yno!!