Mae’r gwesty a’r bwyty ar gyrion Tref Llanbed wedi bod ar werth ers mis Hydref 2023 a chyhoeddwyd ar ddiwedd mis Awst y byddai’r perchnogion newydd yn cymryd drosodd dechrau fis Medi.
Gwerthwyd y gwesty a’r bwyty i Marco-David Soares a Neil Baines sydd wedi dechrau ar y gwaith o reoli’r lle ers yr 2il o Fedi. Bu’r pâr yn rheoli ‘Plas Dinas Country House’ a bwyty ‘The Gunroom’ yng ngogledd Cymru.
Mae’r adeilad hanesyddol y Falcondale wedi ei warchod a’i hanes yn dyddio nôl i flynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif pan oedd yn rhan o Stâd Harford.
Bu’n gartref hen bobl wedyn cyn newid i westy yn y 1970au. Gwerthwyd fel gwesty i’r perchnogion diweddaraf, Lisa a’r diweddar Chris Hutton yn y flwyddyn 2000- bron i 25 mlynedd nôl.
“Rydym wrth ein boddau wrth gymryd yr awenau yn y gwesty prydferth yma yng Nghymru sydd mor agos at ein calonnau”- Neil Baines
“Rydyn ni a’n dau gi yn edrych ymlaen at eich cwrdd yn y cyfnod cyffrous yma”
Mewn datganiad, dywed y Falcondale fod y tîm yn parhau ac yn barod i groesawu gwestai.
Felly, dyma ddechrau ar gyfnod newydd a chyffrous i berchnogion newydd y gwesty poblogaidd.