Mae perchnogion tir wedi derbyn cais am arolwg

Llawer yn gwrthod caniatad i gwmni Bute Energy

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae perchnogion tir lleol ar hyd llwybr peilonau arfaethedig Prosiect Towy Teifi wedi derbyn llythyron yn ddiweddar yn gofyn iddynt lenwi holiadur er mwyn rhoi caniatad i weithwyr gynnal arolwg tir.

Dyma ddechrau ar y broses o godi peilonau o Lanfair Clydogau i Gaerfyrddin a fydd yn effeithio ardaloedd Llanfair Clydogau, Cellan, Cwmann, Parc-y-rhos , Llanybydder a Llanllwni.

Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus i drafod yn cynllun yn:

Neuadd Eglwys Llanllwni ar Chwefror 7fed

Neuadd Mileniwm Cellan ar Chwefror 22ain

Aberduar, Llanybydder ar Chwefror 23ain

Yn y cyfamser y bwriad gan lawer yw peidio llenwi’r holiadur a gwrthod mynediad i weithwyr ar eu tir.

Gwelwyd negeseuon ar wefannau cymdeithasol gyda phreswylwyr a pherchnogion eiddo a pherchnogion tir wedi eu cythruddo gan y llythyron hyn, a wedi eu siomi’n ddirfawr o ddeall bod bwriad adeiladu peilonau ar eu tir ac yn agos i’w cartrefi.  Gwelwyd negeseuon o gydymdeimlad hefyd.

Dywedodd y Cyng Eryl Evans,

“Rwy’n hapus i godi hyn gydag adran gynllunio CSC.  Byddwn hefyd yn cynghori pobl i beidio ag arwyddo unrhyw beth oni bai eich bod yn dymuno.”

Mae cwmni Carter Jones yn gweithredu fel asiantwyr tir ar ran Green GEN Cymru ac fe honnir yn y llythyr y gallai’r prosiect hwn gyfrannu tuag at darged Llywordaeth Cymru er mwyn cyflawni trydan adnewyddadwy o 100% erbyn 2035.  Gofynnir am adborth a barn ynglyn â’r cynigion a bwriedir trefnu arolwg amgylcheddol ar droed heb fod yn ymwthgar.