‘Peryg i fywyd’ : Rhybudd coch i’r ardal

Swyddfa’r Met yn rhybuddio am dywydd eithafol o law a gwynt yn sgil Storm Darragh.

gan Ifan Meredith
Screenshot-2024-12-06-at-15.53.24Met Office

Mae Swyddfa’r Met wedi gosod rhybudd coch, y mwyaf eithafol, am wyntoedd cryfion ar draws rhan fwyaf o Gymru. Mae rhybudd melyn o law eisoes yn weithredol hefyd.

Mae disgwyl i wyntoedd cryf ddod o’r Gorllewin rhwng 3:00yb a 11:00yb  ar ddydd Sadwrn, 7fed o Ragfyr. Mae’r rhybudd melyn am law yn para tan 12:00yp ddydd Sadwrn, 7fed o Ragfyr. Bydd y rhybudd coch am wynt yn cael ei israddio i rybudd melyn tan 6:00yb fore Sul.

Rhybuddia Swyddfa’r Met am wyntoedd rhwng 70 a 80 milltir yr awr gyda’r gwyntoedd cryfaf dros 90 milltir yr awr yn bosib.

Mae’r system rybuddio yn amrywio o felyn i goch, yn ddibynnol ar ddifrifoldeb:

  • Rhybudd melyn : effeithiau isel yn sgil tywydd eithafol.
  • Rhybudd oren : mwy o debygolrwydd am effeithiau yn sgil tywydd eithafol.
  • Rhybudd coch : Tywydd peryglus a dylid gweithredu i leihau effaith  tywydd eithafol.

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff yw ein prif flaenoriaeth”

Bydd y tywydd yn effeithio ar deithwyr ddydd Sadwrn ac mae Traws Cymru wedi cyhoeddi y byddai gwasanaethau T1 ynghyd â gwasanaethau eraill yn cael eu canslo ar ddydd Sadwrn, 7fed o Ragfyr. Mae Traws Cymru yn annog teithwyr i beidio teithio oni bai ei fod yn hanfodol.

Mae awdurdodau lleol Ceredigion a Sir Gâr wedi annog trigolion ac ymwelwyr i gadw eu hunain yn ddiogel gan osgoi teithio ar y ffyrdd.

Mewn datganiad, medd Cyngor Sir Gâr bod angen gofalu “nad oes unrhyw eitemau’n rhydd y tu allan i’ch cartref”. Dywedodd yr awdurdod i drigolion baratoi ar gyfer toriadau i’r cyflenwad trydan hefyd.

“osgoi trafaelu ar y ffyrdd yn ystod amodau tywydd peryglus”

Cynghora Cyngor Sir Ceredigion i beidio teithio gan all ddifrod eang darfu ar isadeiledd pŵer a theithio yn y sir.

“Mae bod tu allan mewn gwyntoedd cryfion yn beryg; arhoswch dan do os yw hyn yn bosib.”

Mae disgwyl i Storm Darragh achosi ‘peryg i fywyd’ o achos deunyddiau rhydd yn hedfan, tonnau mawr ar yr arfordir, toriadau i gyflenwadau trydan, difrod i adeiladau a chartrefi ac effeithiau i isadeiledd heolydd, pontydd a rheilffyrdd.

Mae gwefan Swyddfa’r Met yn darparu diweddariadau a chyngor i drigolion drwy gydol y storm dros y penwythnos.

Dweud eich dweud