Pigion Urdd Bro Pedr yn codi’r to

Ar ôl llwyddiant yn eisteddfodau’r Urdd cynhaliwyd noson o bigion er mwyn dathlu

gan Ifan Meredith
e5c8537e-98dd-417b-a9a4
IMG_7326
IMG_7325
a7a04239-5579-4f67-8928

Cafwyd noson hwyliog yn neuadd Ysgol Bro Pedr ar nos Iau, yr 11eg o Ebrill. Dyma oedd cyfle gwych i’r gymuned leol allu ail-weld pigion yr eisteddfodau rhanbarth yr Urdd

Roedd eitemau amrywiol y noson yn deillio o eisteddfodau rhanbarth llwyfan, dawns, theatr ac eisteddfod cylch yr Urdd a gynhaliwyd ym mis Chwefror a Mawrth.

Roedd yr eitemau yn cynnwys llefaru ac unawdau ynghyd â phartïon llefaru, eitemau offerynnol ac unawdau. Clo’r noson oedd Cân Actol blwyddyn 7-9.

Dyma luniau o rai o eitemau yn y noson hwylus.

Pob lwc i bawb yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd ym Meifod!

Dweud eich dweud