Problemau technegol yn effeithio ar archfarchnadoedd.

Mae Sainsbury’s wedi ei effeithio gan broblem technegol dros nos.

gan Ifan Meredith
IMG_6997

Dros nos mae systemau technegol Sainsbury’s wedi profi gwall technegol sydd wedi effeithio ar siopwyr ledled y Deyrnas Unedig.

“Oherwydd gwall gyda diweddariad meddalwedd dros nos, rydym yn profi problemau gyda thaliadau digyswllt ac ni fyddwn yn gallu dosbarthu y mwyafrif o archebion ar-lein heddiw. Mae ein siopau ar agor fel arfer, yn derbyn taliadau pin ac arian parod.” Sainsbury’s, X

“Rydym yn ymddiheuro i’n cwsmeriaid am yr anghyfleustra”

Yn dilyn y cyhoeddiad hwn ar X wnaeth Sainsbury’s ddatgan eu bod yn ceisio cysylltu â’r cwsmeriaid a effeithiwyd. Yna, datgelwyd bod yna broblemau wedi eu profi gyda gwasanaethau ffôn y cwmni.

Roedd yna olygfa brysur yn archfarchnad Sainsbury’s yn Llanbed heddiw wrth i siopwyr fethu defnyddio gwasanaeth cerdyn digyswllt gyda gweithiwr yn esbonio hyn wrth y drws wrth fynychu’r siop.

Yr olygfa ger gwasanaethau hunan-sganio archfarchnad Sainsbury’s Llanbed ddydd Sadwrn.

Bellach, mae archfarchnad Tesco hefyd wedi profi problemau technegol.