Rali Ceredigion : Coroni’r pencampwyr

Cyffro’r cymalau olaf ddydd Sul.

gan Ifan Meredith
Huw Evans

Hayden Paddon yn dathlu!

IMG_1322

Osian Pryce a Rhodri Evans yn gwibio o gwmpas cymal Bethania.

IMG_1350

Meirion Evans a Jonathan Jackson ar Bethania.

IMG_1332
IMG_1349

Gwyndaf Evans, tad Elfyn Evans (gyrrwr Pencampwriaeth Ralio’r Byd).

Cymalau cystadleuol o 57 cilomedr sef Bethania a Hafod oedd yr her heddiw gyda’r criwiau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth ddewis pa deiars i’w defnyddio.

Wnaeth y glaw canol dydd stopio dim o Hayden Paddon a John Kennard, y criw o Seland Newydd rhag gwibio drwy’r cymalau a sicrhau mantais o 1m:47.3 dros yr Eidalwr, Andrea Mabellini sydd yn yr ail safle, 3.5 eiliad yn gyflymach na’r Ffrancwr, Mathieu Franceschi sydd yn nhrydydd safle’r rali.

Yn y Bencampwriaeth Ralio Ewropeaidd Ieuenctid, Max McRae a Cameron Fair ddaeth i’r brig yn y rali. Serch hynny, roedd ail safle Mille Johansson (Sweden) yn ddigon i’w gadw ar frig y bencampwriaeth.

O ran y Cymry yn y Bencampwriaeth Ralio Ewropeaidd, gorffennodd Osian Pryce, enillydd y rali llynedd yn 7fed, 2m:32.9 tu ôl i Paddon. Yn dynn ar sodlau Osian yn 9fed mae Meirion Evans, 3m:09.1 tu ôl i’r buddugwyr. Ymhellach lawr y safleoedd mae Ioan Lloyd yn 18fed 10m:49.3 tu ôl i Paddon.

Bu’r cystadleuwyr Cenedlaethol yn cystadlu lle gwelwyd Callum Black a’i gyd-yrrwr, Jack Morton yn y Ford Fiesta yn esgyn i’r brig ar ddiwedd y cystadlu, 3m:55.8 o flaen Neil Roskell a Rob Fagg oedd yn ail. Yn y trydydd safle mae Sam Touzel a Max Freeman.

Cyffro’r dydd.

Bu heddiw yn ddiwrnod o rasio cyflym gyda’r tywydd yn sych yn y bore cyn troi’n wlyb ganol dydd a sychu eto erbyn canol prynhawn. Collodd Keith Cronin reolaeth o’i gar ar Bethania 1 gan ddioddef difrod i’r car.

Bore ’ma, roedd Chris Ingram yn y Toyota GR Yaris yn ail yn y rali ond golygodd damwain gas ar gymal Bethania 1 fod ei rali yn dod i ben ar ôl iddo golli rheolaeth o’r car a gorffen yn y borfa. Golygodd hyn bu’r cymal ar gau ar gyfer y cystadleuwyr rhyngwladol.

Yn yr un man ar Bethania 2, troellodd Meirion Evans 360 gradd cyn parhau ar y rali ond colli amser prin iawn. Ar gymal Hafod ym Mhontarfynach, tro Eamonn Kelly yn y Ford Fiesta Rally 3 oedd hi i brofi pa mor greulon gall y gamp fod a sut gall un camgymeriad gostio’n fawr.

Yr ymateb.

“methu cael y teimlad cywir i’r car”

Ar Facebook yn dilyn y rali, aeth Osian Pryce i sôn am ei rwystradigaeth wrth ddweud oedd e’n “gobeithio am ychydig mwy” gan fynd ymlaen i sôn fod y “lefel tu hwnt o uchel ac felly roedd unrhyw gamgymeriadau yn cael effaith”.

“Rhyddhad mawr i ennill yn Rali Ceredigion”

Dywedodd enillydd y rali, Hayden Paddon ei bod hi wedi bod yn dymor caled gan ddiolch i’r tîm. “Mae’n ganlyniad sylweddol- diolch mawr i bawb a fu’n cefnogi adref”.

“Wedi mwynhau’r rali yn fawr”

Roedd Callum Black yn canmol y gwaith aeth mewn i drefnu’r rali gan ddisgrifio’r cymalau yn “wych”. “Enillon ni gyda mantais o bedwar munud yn y diwedd felly allai byth fod wedi mynd yn well”.

Mewn datganiad mae’r trefnwyr wedi nodi’r digwyddiad eleni yn un “hanesyddol” wrth groesawu’r Bencampwriaeth Ralio Ewropeaidd nôl i Gymru am y tro cyntaf ers 1996.

Dweud eich dweud