Rali Ceredigion : Clo diwrnod o ralio

Y criw o Seland Newydd yn parhau ar y brig.

gan Ifan Meredith
IMG_1318Huw Evans

Meirion Evans (Toyota GR Yaris) yn y Parc Gwasanaethu

IMG_1319

Wedi diwrnod o gystadlu brŵd Dydd Sadwrn ar gymalau Brechfa, Llyn Brianne a Nant y Moch ynghyd â chymal Aberystwyth, mae’r criw o Seland Newydd yn yr Hyundai i20 N Rally2 yn parhau ar frig Rali Ceredigion 2024 gyda mantais o 1:18.7 dros ei wrthwynebwr, Chris Ingram.

Wedi digwyddiad ar gymal Llyn Brianne bore ’ma gyda char James Williams yn cael difrod, bu’n rhaid i’r ceir oedd yn ei ddilyn dderbyn yr un amser gan gynnwys y gyrrwr lleol o Garej Derwen, Meirion Evans. Disgrifiodd Meirion yr amser ‘nominal’ yma yn “anheg” ac felly yn “gobeithio am well ’fory”.

“Dechrau cryf bore ’ma ond problem fach wedi ein dal ni nôl”

Mae Meirion Evans yn yr 11eg safle a 2:07.9 tu ôl i Hayden Paddon ar hyn o bryd.

Bu heddiw yn ddiwrnod hir i’r criwiau gyda 8 cymmal o rasio i gyd. Yfory, bydd yna 2 gymal yn cael eu rhedeg ddwywaith, yn y bore a’r prynhawn, sef Bethania a Hafod.

Bydd cymal cyntaf Bethania yn cychwyn am 8:33yb a Hafod i ddechrau am 9:35yb a’r ail rediad ar Bethania yn dechrau am 12:01yp. Clo’r cystadlu fydd y cymal cyffro ar Hafod am 2:05yp lle cawn wybod pwy fydd enillydd Rali Ceredigion 2024.

Meirion Evans yn paratoi i adael Bont ar gyfer cymal Nant y Moch.
Ceir di-ri yn ail-ymuno yn Bont cyn mynd ymlaen at gymalau’r prynhawn.
Y car cyntaf ac arweinydd y rali, Hayden Paddon yn gwibio ar hyd strydoedd Aberystwyth.

Yr haul yn machlud dros ddiwrnod o gystadlu yn Rali Ceredigion 2024.