Rhaglen Eisteddfod fawr Llanbed

Mae rhestr testunau a rhaglen lawn Eisteddfod RTJ Pantyfedwen bellach ar y we

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i gystadlu, yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol? Ydych chi’n teimlo’r awen yn eich taro? Ydi’r llais a’r ymennydd a’r cof a’r gallu i ddehongli i gyd angen eu hymarfer? Oes gennych chi awydd creu darn o gelf a chrefft?

Wel, beth am gystadlu yn un o eisteddfodau mawr Cymru – Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan. Cynhelir yr Eisteddfod ar gampws Ysgol Bro Pedr, 24, 25 a 26 Awst 2024. Ac yn wahanol i’r arfer eleni, mae’r Eisteddfod yn agor ar nos Wener, 23 Awst – gyda Thalwrn y Beirdd yng Nghlwb Rygbi Llanbed.

Sylwer, os gwelwch yn dda:
* Mae dyddiad cau y testunau llenyddol ddydd Mawrth, 13 Awst.
* Dylid cofrestru ar gyfer y cystadlaethau llwyfan erbyn dydd Llun, 19 Awst.
(Manylion cyswllt ar dudalen 3 y rhaglen)