Siom perchennog siop wrth ganfod difrod o flaen ei siop

Mae perchennog siop wedi mynegi ei siom ar ôl canfod difrod o flaen ei siop.

gan Ifan Meredith
468618670_1050600146865230Creative Cove - Facebook

Mae lluniau ganddi yn ymddangos bod rhywun wedi taro yn erbyn bocs planhigion pren oedd yn llawn pridd gan achosi difrod i’r pren tu allan i siop Creative Cove ar y Stryd Fawr yn Llanbed.

“mae’n siomedig”

Dywedodd Sandra Jervis, perchennog siop Creative Cove ar Stryd Fawr Llanbed teimlodd yn “siomedig” o ganfod ei bocs blodau wedi ei ddifrodi.

“Mae bocs blodau wedi bod tu allan y siop am dros bum mlynedd a dw i byth wedi cael problemau ohonyn nhw yn cael eu fandaleiddio” meddai wrth Clonc360.

Esboniodd y byddai’n dweud wrth yr Heddlu am y difrod gan drosglwyddo fideo o’r camera sydd ganddi yn y siop.

“Mae rhan fwyaf o drigolion Llanbed yn ofalgar a chefnogol. Rhai unigolion sy’n ceisio ei sarnu i eraill ond, rhaid i ni beidio â’u gadael i ennill. Petai hyn yn ddamwain, gallai’r person fod wedi dod i ymddiheurio “

Dywedodd fod busnesau yn buddsoddi arian i brydferthu Llanbed felly “mae pethau fel hyn yn gallu ein siomi”.

Ar ei phost ar Facebook, bu’r gymuned yn gyflym i gefnogi Sandra Jervis gyda nifer yn datgan ei siom o weld hyn.

Daw hyn ar yr un noson y bu Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn yn y dref yn cynnal Cyfarfod Cyhoeddus i drafod pryderon y cyhoedd am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Esboniwyd bod yna wybodaeth fforensig gan yr Heddlu bellach yn yr ymchwiliad i ddifrod i gloc y dref.

Yn y cyfarfod, esboniwyd am system Camerâu Cylch Cyfyng (CCTV) newydd sy’n weithredol yn y dref gan bwysleisio’r angen i’r cyhoedd i adrodd yn benodol am droseddau wrth ffonio 101 yn syth. Pwysleisiwyd hefyd y modd mae Heddlu Dyfed Powys yn awyddus i ymgysylltu â’r gymuned gyda’r Comisiynydd, Dafydd Llywelyn yn ymweld â Chweched Ysgol Bro Pedr yn ddiweddar.

Lansiwyd holiadur ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar sydd dal i fod yn agored yn y nod o wella’r sefyllfa yn y dref yn dilyn nifer o ddigwyddiadau tebyg dros y misoedd diwethaf.

Dweud eich dweud