Sion Evans yn ennill dosbarth uwch yn rownd cyntaf Pencampwriaeth Enduro

Y beiciwr Enduro o Gwmann yn dod i’r brig ar y penwythnos

Gary Jones
gan Gary Jones
20DD29BD-2A18-4FED-A5DC
A4B69E5B-9940-4E54-8B46

Dydd Sul oedd rownd cynta o Bencampwriaeth Enduro Cymru sef y Snowrun Enduro yng Nghoedwig Crychan ger Llanymddyfri.

Roedd Sion Evans o Gwmann yn rasio beic Fantic 250 gyda thîm Cartrefi PAR yna. Gyda thri lap o ryw 27 milltir yr un, roedd Sion yn ei ogoniant gyda’r goedwig mor wlyb a digon o bwdel ar ôl y glaw trwm diweddar.

Dechreuodd ryw 180 o feiciau modur y ras ac ar ddiwedd y dydd gorffennodd Sion gan ennill dosbarth yr Experts ar ôl diwrnod caled i’r beic ac i’r reidwr.