Mae’r grŵp cymunedol lleol, Stage Goat, mewn partneriaeth ag Area 43 yn dathlu heddiw ar ôl cael bron i £500,000 o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi y gwaith gyda phobl ifanc. Bydd y grŵp, sydd wedi’i leoli yn Llanbedr Pont Steffan, yn defnyddio’r arian i agor Caffi Ieuenctid Safle Saff. Caiff y Caffi ei redeg mewn partneriaeth ag Area 43.
Mae Area 43 wedi bod yn rhedeg ei safle saff, Depot, yn Aberteifi ers 2021, gyda thros 1000 o ymweliadau gan bobl ifanc yn fisol. Mae Stage Goat ac Area 43 yn bwriadu agor safle partneriaeth yn Llanbed sy’n atgynhyrchu’r ddarpariaeth. Mae Stage Goat wedi bod yn cynnal caffi ieuenctid o Neuadd Fictoria yn Llanbed, ond bydd y cyllid newydd hwn yn caniatau iddyn nhw symud i adeilad pwrpasol yn y dref.
Mae’r ddau grŵp wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp lobïo pobl ifanc, S3 (Safe Space to Speak / Safle Saff i Siarad), i greu rhwydwaith o safloedd saff i bobl ifanc ar draws Ceredigion. Bydd y cyllid newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at achosion da ac sy’n ariannwr cymunedol mwyaf y DU, yn gweld Llanbed yn cynnig ei safle saff ei hun. Bydd hyn o dan arweiniad ieuenctid a fydd yn darparu cefnogaeth galw heibio, gweithgareddau ac atgyfeiriadau ymlaen at wasanaethau i bobl ifanc.
Meddai Tracey O’Grady, sylfaenydd Stage Goat:
“Rydym wrth ein bodd bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith fel hyn. Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gallwn ehangu’r ystod o gefnogaeth a chyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc lleol. Bydd gweithio mewn partneriaeth ag Area 43 yn golygu y byddwn yn gallu rhannu dysgu ac adnoddau i sicrhau’r safonau uchaf o gefnogaeth i bobl ifanc yn Llanbedr Pont Steffan.”
Dywedodd Rachael Eagles, Prif Swyddog Gweithredol Area 43:
“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Stage Goat fel darparwr gwasanaethau cymorth ieuenctid lleol. Y nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu’r angen yn Llanbedr Pont Steffan, ac rydym ni yn Area 43 wedi ymrwymo i bartneriaethau gyda sefydliadau sy’n cyd-fynd â’n hethos a arweinir gan bobl ifanc i ddarparu gwasanaethau o safon, a arweinir gan bobl ifanc, i bobl ifanc waeth beth fo’u lleoliad.”
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ar draws y DU. Diolch iddyn nhw, y llynedd llwyddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddosbarthu dros hanner biliwn o bunnoedd (£615.4 miliwn) o arian a newidiodd bywydau mewn cymunedau.