Daeth Storm Darragh â gwyntoedd cryfion a glaw a achosodd difrod sylweddol yn yr ardal. Bu’r awdurdodau lleol, cwmnioedd coed ac amaethwyr yn gweithio’n galed dros y penwythnos i waredu coed oedd wedi disgyn ar ffyrdd yr ardal.
Effeithiodd yn sylweddol ar gyflenwadau trydan hefyd gyda nifer yn parhau heb bŵer. Mae’r Grid Cenedlaethol yn gweithio i adfer cyflenwadau mewn ardaloedd o Langybi, Llanfair Clydogau, Cwmann a Llanllwni ac yn gobeithio byddai pŵer yn dychwelyd i ran fwyaf o dai’r ardal erbyn 10:00yh nos Fercher (Rhagfyr 11). Mae modd chwilio cyflwyr y cyflenwadau trydan yn eich ardal ar wefan y Grid Cenedlaethol.
Yn dilyn tarfiad i gyflenwadau trydan gyda’r Grid Cenedlaethol yn adfer trydan mewn 1.8m o gartrefi, agorwyd nifer o adeiladau cynghorau er mwyn darparu dŵr, gwres a thrydan i drigolion. Mae canolfannau yma yn parhau yn agored o 9yb tan 9yh yng Ngheredigion heddiw.
Un o’r canolfannau yma oedd Canolfan Lles Llanbed a fu ei hun heb drydan ddechrau’r wythnos ond mae’r cyflenwad wedi ei adfer bellach ac mae’r ganolfan wedi ail-agor ynghyd â’r pwll nofio.
Mae nifer o ganolfannau cymunedol fel Canolfan Cwmann ynghyd â busnesau wedi agor eu drysau hefyd i ddarparu dŵr, gwres a thrydan i drigolion.