Dyma’r ail daith gerdded tywys rhad ac am ddim yn y gyfres o deithiau a drefnwyd gan Bwyllgor Llywio Taith Dyffryn Teifi. Pwrpas y teithiau yw cyflwyno harddwch a natur anhygoel Dyffryn Teifi a’r rhwydwaith o lwybrau cerdded ar hyd glannau’r Afon Teifi. Cynhaliwyd teithiau cyntaf y gyfres Sadwrn 19eg Hydref yn ardal Pontrhydfendigaid a Chors Caron. Sylw un o gerddwyr y daith honno ar dudalen Facebook Taith Dyffryn Teifi yw:
‘Diwrnod gwych a thywydd perffaith! Sgyrsiau difyr yn ystod y daith! Diolch i bob un sydd yn gweithio mor galed yn sefydlu Llwybr Taith Dyffryn Teifi!’
Cychwynnodd ein taith o faes parcio’r Rookery, Llanbed a threfniadau’r daith tan arweiniad Kay Davies a James Williams. Mi wnaethant ofalu bod pawb yn ymwybodol o lwybr a hyd y daith, yn gwisgo dillad ac esgidiau addas ac i ddilyn cyfarwyddiadau’r stiwardiaid yn eu gwasgodau melyn yn ystod y daith. Dyma’r fintai o 72 o gerddwyr felly’n ymlwybro yn neidr amryliw i gyfeiriad caeau Fferm Pontfaen a’r llwybr cyhoeddus yno sy’n arwain i’r de at lannau’r Teifi.
Gwelsom adfeilion Plas Ffynnon Bedr yn y pellter wrth ddilyn y llwybr tuag at y Teifi ac wedyn i’r gorllewin hyd nes troi am y gogledd ger ffermydd Dolau Gwyrddion Isaf ac Uchaf. Dilyn ffordd y ddwy fferm wedyn nes cyrraedd Ffordd Llanwnnen (A475) a chwith ar hyd y briffordd trwy Pentrebach at Derwendeg. Yna troi i’r chwith a’r ffordd yn arwain i’r de yn ôl i gyfeiriad y Teifi a heibio Pant y Deri, Tŷ Newydd a Ffynnon Fair. Newid cyfeiriad am y gogledd am Drefâch ple ’roedd dewis gennym – naill ai dilyn llwybr byrrach i Lanwnnen tan arweiniad Kay Davies neu’r un hirach gyda James Williams fyddai’n cyrraedd y B4337 rhwng Llanwnnen ac Alltyblaca a dilyn y B4337 i Lanwnnen. Dewisodd y rhan fwyaf ohonom yr olaf a gwnaethom gyrraedd Gwesty’r Grannell, Llanwnnen tua 1.15 o’r gloch. Golyga hynny bod digon o amser yno i fwynhau diod a brechdan cyn dal bws y T1 am 2.00 yn ôl i Lanbed.
Mwynheais y daith yn arw ac mae’r sylw a wnaed am y daith gyntaf yr un mor berthnasol i’r daith hon. Bu’n gyfle i werthfawrogi harddwch godidog Dyffryn Teifi a rhyfeddu at fyd natur a’r fioamrywiaeth sydd mor ddibynnol ar ddyfroedd y Teifi. Cefais sgwrs gyda sawl un a dod i adnabod cerddwyr o Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth, Tregaron, Llandeilo, Caerfyrddin a Llanelli. Ymunodd criw o Ddysgwyr Cymraeg oedd yn aros yn Y Garth Newydd, Llanbed am ran o’r daith, a braf cael eu cwmni. Diolch yn fawr iawn i gydlynwyr Llwybr Taith Dyffryn Teifi am drefnu taith mor ddifyr yn y gyfres hon o deithiau ar hyd glannau’r Teifi.
Cynhelir y daith nesaf Sadwrn 23ain Tachwedd – Llanybydder yw’r man cyfarfod a’r bwriad yw cerdded y llwybr yn dilyn y Teifi rhwng Llanybydder a Phont-Tyweli. Cysylltwch gyda Kay Davies am ychwaneg o wybodaeth am y daith: 01570 480041 neu 07949311577 neu ekdvs58@gmail.com<mailto:ekdvs58@gmail.com> Croeso cynnes i bawb ar gyfer taith arall i fwynhau rhyfeddodau Dyffryn Teifi.