Ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth sydyn bachgen 15 oed ger Llanbed

Cyhoeddiad gan Heddlu Dyfed Powys wedi marwolaeth bachgen ddoe

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys heddiw,

“Rydym yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth sydyn bachgen 15 oed mewn lleoliad ger Llanbedr Pont Steffan brynhawn dydd Gwener, 1af Mawrth 2024.

Mae’r teulu’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus a bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer Crwner Ei Fawrhydi.

Rydym yn ymwybodol o bryder yn y gymuned, ond gan fod ymchwiliad yn parhau gofynnwn i gefnogaeth gael ei rhoi i’r teulu trwy beidio â dyfalu ar amgylchiadau’r farwolaeth.”

Dywedodd Maer Llanbed, y cynghorydd Rhys Bebb Jones,

“Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn cydymdeimlo’n fawr gyda theulu a ffrindiau y bachgen 15 oed fu farw prynhwn Gwener.

Penderfynodd Ysgol Bro Pedr na allent tan y fath amgylchiadau trist barhau gyda’r trefniadau i gymryd rhan ym Mharêd Gŵyl Dewi 2024. O barch i’w penderyniad, newidwyd lleoliad dechrau’r orymdaith o safle Ysgol Bro Pedr i faes parcio’r Rookery. Penderfynwyd yn dilyn ymgyngori’n eang i barhau gyda’r Parêd ond i beidio cynnal y Twmpath Dawns nos Sadwrn.”