Cloncan : Y dyn o Japan a ddysgodd Gymraeg yn Llanbed

Ar ddechau blwyddyn ‘Cymru yn Japan’, a wyddoch chi fod yna gysylltiad rhwng y wlad â Llanbed?

gan Ifan Meredith
ffoto-2019Takeshi Koike

Mae Takeshi Koike yn gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Tokyo ac yn dysgu Cymraeg i’w fyfyrwyr.

Mae Takeshi Koike yn dysgu Cymraeg yn Japan ar ôl iddo ddysgu’r iaith pan oedd yn astudio ym Mhrifysgol Llanbed yn 1992.

Bellach, mae Takeshi yn byw yn Japan ac yn gweithio mewn Prifysgol yno. Wrth siarad â Clonc360, soniodd ei fod yn dysgu’r Gymraeg i fyfyrwyr ifanc fel rhan o fodiwl ‘Cymru : ei diwylliant a’i hiaith’.

Daeth i Brifysgol Llanbed wrth iddo ddewis astudio tramor am flwyddyn a gan fod ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth, daeth i Gymru ac fel rhan o’i flwyddyn yn astudio yn Llanbed, dysgodd Gymraeg.

“Nes i sylweddoli bod llawer o bobl o Gymru yn byw yn Japan” 

Ar ôl dychwelyd i Japan, sylweddolodd bod nifer o Gymry yn byw yn Japan a sylweddolodd am Gymdeithas Dewi Sant yn Tokyo. “Cwrddais â dyn o Abertawe a dechreuon ni ddysgu Cymraeg i bobl mewn caffis, ysgolion, unrhyw le yn Tokyo!” dywedodd wrth Clonc360.

“iaith ddiddorol”

Bu’n dysgu Cymraeg i bobl â diddordeb yng Nghymru a bellach yn dysgu dros 25 o fyfyrwyr ar fodiwl ‘Cymru: ei diwylliant a’i hiaith’ ym Mhrifysgol Tokyo.

Wrth sôn am ei brofiadau yn dysgu Cymraeg i drigolion Japan, soniodd am stori un myfyriwr a ddaeth i Brydain i ddysgu Saesneg ac yna ymweld â Chymru gan sylweddoli pa mor fyw yw’r iaith yng Nghymru.

Mewn e-bost at Takeshi, dywedodd y myfyriwr “i ddweud y gwir, doeddwn i ddim yn deall pam roeddech chi mor awyddus i ddysgu Cymraeg… ond nawr dwi’n gweld yr iaith Gymraeg yn fyw, dwi’n deall pam”. “Wrth ddarllen yr e-bost, teimlais yn falch” meddai Takeshi Koike wrth Clonc360.

“croeso a chynhesrwydd pobl yng Nghymru tuag at bobl o dramor”

Dywedodd fod “rhaid ymweld â Chymru i ddeall rhinwedd y diwylliant” a bod siarad Cymraeg wrth ymweld â Chymru yn “cyfoethogi’r daith”.

Mae’n cydweithio ar nifer o brosiectau cyffrous rhwng Cymru a Japan gan gynnwys gyda dyn o Japan sydd yn gweithio yng Nghaerdydd sydd wrthi yn cynhyrchu taith rithiol o Gymru fyddai yn galluogi pobl yn Japan i weld y wlad.

“allwedd diwylliant Cymru yw’r iaith”

Mae Takeshi hefyd yn gweithio ar gynnwys ar-lein gan ei fod yn gwneud clipiau fideo i ddeall sut i ynganu llythrennau’r wyddor ac yn gobeithio gwneud mwy o glipiau i ddysgu Cymraeg i bobl ar draws y byd!

Mae’r brifysgol yn Llanbed wedi “colli ei hannibyniaeth” 

Wrth ymateb i gynlluniau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i adleoli cyrsiau dyniaethol o Llanbed i Gaerfyrddin, dywedodd ei fod wedi bod yn “poeni am ddyfodol prifysgol Llanbed ers iddi ymuno â phrifysgol Caerfyrddin.”

Dywedodd wrth Clonc360 fod y “diwylliant Gymraeg yn fyw yn Llanbed” a bod “posib dysgu a deall sut mae pobl yn defnyddio’r Gymraeg fel mamiaith.”

Mae disgwyl penderfyniad am dynged campws Llanbed erbyn diwedd y mis.

Ynghynt yn yr wythnos, cyhoeddwyd fideo o lysgennad Japan i’r Deyrnas Unedig, Hiroshi Suzuki, yn canu ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ cyn ei ymweliad â Chymru ddoe i ddechrau dathliadau ‘Blwyddyn Cymru yn Japan’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi 2025 yn flwyddyn i ddathlu cysylltiadau Cymru â Japan gan gynnal nifer o weithgareddau yn y ddwy wlad yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod lansiad ‘Blwyddyn Cymru a Japan’, canodd Eluned Morgan anthem Japan i groesawu Llysgennad Japan i’r Deyrnas Unedig.

Bydd tîm rygbi Cymru yn teithio i Siapan ym mis Gorffennaf i chwarae dwy gêm brawf yn y wlad.

Dweud eich dweud