Cyri… a chodi arian

Merched ifanc India yn buddio o haelionni yr ardal.

gan Ifan Meredith
Screenshot-2025-01-18-at-22.42.16Martha Thomas

Mae ‘Her Future Coalition’ yn gweithio i gefnogi merched ifanc yn India ac ar noson o gyrri a chwis yn festri Brondeifi, codwyd dros £1,200 gan Martha Thomas fydd yn mynd ar daith i’r wlad ddiwedd mis nesaf.

Cafwyd noson hwylus yn gwledda ar gyrri a mwynhau cwis diddorol a chaniataodd pawb i ddysgu mwy am India a’r Urdd. Tybed a wyddoch chi mai ‘Men in Blue’ yw llysenw tîm Criced India a bod Mr Urdd wedi bod i’r gofod yn 1998?

Mae Martha yn un o naw merch ifanc sydd wedi cael eu dewis i fynd ar daith i India gyda’r Urdd er mwyn cynorthwyo gydag ymdrech dyngarol ‘Her Future Coalition’ yn Kolkata, India.

Bydd hi yn mynd ar daith am bythefnos rhwng yr 21ain o Chwefror a 7fed o Fawrth sydd wedi ei ariannu gan yr Urdd a chynllun ‘Taith’ Llywodraeth Cymru.

Cyn teithio i India, bu’n rhaid i Martha godi arian at ymdrechion ‘Her Future Coalition’ a llwyddodd i godi dros £2,500 ac mae yn parhau i dderbyn cyfraniadau drwy ‘Just Giving’.

Dweud eich dweud