Dawns Elusennol Lwyddiannus Arall i Sara Wyn

Noson hwylus o fwyta, chwerthin a chodi arian gwerthfawr i MS Society Cymru a Parkinson’s UK Cymru

gan Rhys Jones

Sara Wyn yn cyflwyno siec o £11,250.00 i elusennau MS Society Cymru a Parkinson’s UK Cymru

Noson hwylus o fwyta, chwerthin a chodi arian gwerthfawr i MS Society Cymru a Parkinson’s UK Cymru

Bu llawer o drigolion Llambed a’r cyffiniau yn mwynhau mewn dawns elusennol ar 14 Rhagfyr a drefnwyd gan Sara Wyn Evans o Gwmann, er mwyn codi arian ar gyfer dwy elusen sy’n agos iawn at galonnau nifer ohonom. Roedd ymhell dros gant o bobl yn bresennol ar y noson yn Neuadd Lloyd Thomas ar gampws y Brifysgol yn Llambed, gan fwynhau dau gwrs o fwyd blasus, digon o gwrw da a cherddoriaeth wych gan Newshan.

Hon oedd yr ail ddawns elusennol a drefnwyd gan Sara, sy’n athrawes Addysg Gorfforol yn Ysgol Glantaf, ac yn dilyn llwyddiant yr un ddiwethaf ddwy flynedd yn ôl lle codwyd £14,200 i Ganolfan Cancr Velindre a Mind Cymru, penderfynodd hi drefnu un arall.

Diolch i roddion hael gan fusnesau ac unigolion ledled Cymru, roedd cyfoeth o wobrau i’w hennill ar y noson. Yn dilyn araith gan Sara yn diolch i bawb am eu cefnogaeth, bu llawer o hwyl a sbri wrth i Andrew Morgan arwain yr ocsiwn. A thrwy hynny, fe godwyd dros £6,500 tuag at yr elusennau, yn ogystal â dros £1,800 trwy’r raffl. Roedd yr holl waith trefnu gan Sara wedi talu ar ei ganfed, wrth iddi lwyddo i godi cyfanswm ardderchog o £11,250 i MS Society Cymru a Parkinson’s UK Cymru. Tipyn o gamp!

Mae MS Society Cymru a Parkinson’s UK Cymru yn elusennau sy’n ymchwilio i MS a chlefyd Parkinson’s ac yn darparu cymorth, gwybodaeth a gwasanaethau i ddioddefwyr a’u teuluoedd yng Nghymru.

Wedi’r digwyddiad, dywedodd Sara, “Roedd yn noson grêt, llawn hwyl, dawnsio a bidio. Diolch o galon i bawb am y gefnogaeth!”.

Llongyfarchiadau mawr i ti Sara ar lwyddiant y noson, mae’n siŵr bod pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar am yr un nesaf!

Dweud eich dweud