Mewn cyfarfod Cyngor y Brifysgol, penderfynwyd y bydd cyrsiau dyniaethau a ddysgir ar gampws Llanbed yn symud i gampws Caerfyrddin
Daw hyn yn dilyn misoedd o ymgyrchu gan gyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a’r gymuned leol. Yr ymgyrch ddiweddaraf oedd protest yn y Snedd ddydd Mawrth, yr 21ain o Ionawr.
Credir i gyfarfod o Gyngor y Brifysgol cael ei gynnal ar ddydd Iau, y 23ain o Ionawr yn dilyn cyhoeddiad am gynlluniau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Tachwedd.
“campws Llambed yn bwysig iawn i’r brifysgol”
Mewn datganiad, medd llefarydd ar ran y brifysgol y byddant “yn cychwyn ar y paratoadau a’r ystyriaethau ymarferol ar gyfer y newid arfaethedig hwn.”
“Rydym wedi gweithio i leihau ansicrwydd i staff a myfyrwyr trwy wneud penderfyniad mewn da bryd i alluogi’r cyfnod pontio.”
Myfyrwyr wedi meddwl bydde “bach o obaith”
Caitlin Regola yw cynrychiolydd cwrs Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mi fydd hi yn graddio yn Haf 2025 ac fel aelod o’r Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol mae yn ddiolchgar i bawb am ymuno yn yr ymgyrch.
“Sai’n credu bydde dim allen i di gweud bydde di newid y penderfyniad… mae pawb bellach yn siarad am y problemau fydd o achos symudiad y cyrsiau” meddai wrth Clonc360.
Mae Caitlin yn parhau i bryderu am ddyfodol campws Llanbed gan ddweud “fi’n credu byddan nhw’n gadel [y campws] i fynd.”
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dweud fod y campws yn Llanbed yn “bwysig iawn” iddyn nhw.
Esboniodd Caitlin fydd “rhaid iddyn nhw [PCYDDS] cario ’mlaen â rhyw fath o addysg yno” gan ychwanegu ei bod yn gwybod bydd Sinology, sef astudiaethau Tsieiniaidd yn parhau.
“Wedi ein siomi’n llwyr”
Esther Weller yw ysgrifennydd Cymdeithas Llanbed ac yn rhan o’r tîm a drefnodd y protestiadau yn Llanbed ac ar risiau’r Senedd. Mewn datganiad, cydymdeimlodd Esther â myfyrwyr Llanbed fydd yn cael eu “gorfodi” i adael Llanbed.
“Ers y cyhoeddiad ym mis Tachwedd, nod Cymdeithas Llanbed yw i sicrhau datrysiad hyfyw i gampws Llanbed. Ein ysgogiad oedd i ganfod datrysiad gwell i Lanbed” meddai.
“parhau’r ymgyrch am ddyfodol positif, cryf a chyffrous”
Dywedodd fod y “gefngaeth gan y dref a gwleidyddion wedi bod yn galonogol”. Ychwanegodd y byddant y “gweithio’n ddiflino i sicrhau dyfodol cryf a chynaliadwy i Lanbed sydd yn buddio’r Brifysgol a’r dref.”
Bydd Clonc360 yn diweddaru ymatebion wrth iddynt ddod atom.