Yr ymgyrch i achub Campws Llambed – protest yn y Senedd fydd nesa’

Galw am gynllun hyfyw, cynaliadwy ar gyfer dyfodol hirdymor y campws

gan Jane Nicholas
protest llambed

Ymgyrchwyr yn gorymdeithio trwy Lambed fis diwethaf Llun:Jane Langford

Mae ymgyrchwyr a fu’n protestio yn Llambed yn eu brwydr i achub prifysgol hynaf Cymru ar fin cynnal protest o’r newydd – y tro hwn y tu allan i’r Senedd.

Mae Cymdeithas Llambed, grŵp o filoedd o gyn-fyfyrwyr y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, yn cynllunio diwrnod o weithredu yn Senedd Cymru yng Nghaerdydd ar Ionawr 21.

Daw’r weithred fis ar ôl i tua chant o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, ynghyd â thrigolion lleol, gynnal gorymdaith drwy Lambed i’r campws, lle cynhaliwyd gwrthdystiad.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn bwriadu adleoli cyrsiau dyniaethau o Lambed i’w champws yng Nghaerfyrddin o fis Medi nesaf, gan ddod ag addysg israddedig ar gampws Llambed i ben.

Dywedodd Esther Weller, sy’n arwain yr ymgyrch, ei bod yn credu bod y cynigion yn fater i Gymru gyfan, nid y Brifysgol yn unig.

“Bydd cau campws Llambed yn dod â 200 mlynedd o addysg uwch i ben yn Llambed, y sefydliad addysg uwch hynaf yng Nghymru,” meddai.

“Heb fyfyrwyr a dim ond llond dwrn o staff ar y campws, bydd  effaith andwyol dros ben ar y gymuned leol a’r ardal ehangach.”

“Rydyn ni eisiau atal y brad hwn yn erbyn diwylliant Cymru. Mae’r campws yn Llambed yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ehangu mynediad i addysg uwch, gan gyfrannu at ardal fwy llewyrchus a gwydn yng nghanolbarth Cymru.”

Dywedodd y byddai cynlluniau ar gyfer Ionawr 21 yn cynnwys lansio ffilm ymgyrch fer yn ogystal â phrotest y tu allan i’r Senedd, fydd yn dechrau am 10.30am.

“Rydym yn gwahodd unrhyw un sy’n cefnogi addysg uwch yng Nghymru I fynychu’r brotest,” meddai.

Mae’r gymdeithas wedi lansio deiseb yn erbyn y cynigion sy’n gofyn am 10,000 o lofnodion i orfodi dadl ar y mater yn y Senedd a hyd yma wedi’i harwyddo gan bron i 5,000 o bobl.

Mae’r ddeiseb, sy’n galw ar y brifysgol a Llywodraeth Cymru i greu ‘cynllun hyfyw, cynaliadwy ar gyfer dyfodol hirdymor campws Llambed’, i’w gweld yma: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246410

Dweud eich dweud