Mewn seremoni ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid gwobrwywyd Papur Bro Clonc â Gwobr Fusnes Cymunedol a £250 fel rhan o Wobrau Busnes Ceredigion.
Aeth Nia a Mary Davies yno ar ran Clonc i dderbyn y wobr. Noddwyd y gystadleuaeth gan Antur Teifi a Cynnal Ceredigion. Cyflwynwyd y wobr i Clonc gan Teleri Davies a Catrin Miles.
Cyn hynny roedd rhaid llanw ffurflen gystadlu, cymryd rhan mewn cyfweliad a rhoi cyflwyniad o flaen panel o chwe pherson busnes. Mary Davies a Dylan Lewis a fu’n gwneud hyn. Enwebwyd Clonc am y wobr gan Brosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro.
Mae hyn yn dyst i holl waith caled pawb sy’n cyfrannu i Clonc ac yn dangos cryfder ein papur bro. Gwobrwywyd Clonc yn arbennig am lwyddo’n ariannol, am arloesedd fel papur bro ac am hybu gweithgarwch yn lleol. Cydnabyddir yn ddiolchgar hefyd gefnogaeth darllenwyr o fis i fis.
Dyma goron ar weithgarwech blwyddyn dathlu pen-blwydd Clonc yn bump ar hugain oed.